Llythyr Paul at y Colosiaid 4:1-18 BCN1988 - Bible AI

1Chwi feistri, rhowch i'ch caethweision yr hyn sy'n gyfiawn a theg, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef.

2Parhewch i wedd�o yn ddyfal, yn effro, ac yn ddiolchgar.

3Gwedd�wch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i'r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist, y dirgelwch yr wyf yn garcharor er ei fwyn.

4Gwedd�wch ar i mi ei amlygu, fel y mae'n ddyletswydd arnaf lefaru.

5Byddwch yn ddoeth eich ymddygiad tuag at y rhai sydd y tu allan; daliwch ar eich cyfle.

6Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu � halen, ichwi fedru ateb pob un fel y dylid.

7Fe gewch yr holl hanes amdanaf gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon, a'm cydwas yn yr Arglwydd.

8Yr wyf yn ei anfon atoch yn unswydd ichwi gael gwybod am ein hynt, ac er mwyn iddo ef eich calonogi.

9Daw Onesimus gydag ef, y brawd ffyddlon ac annwyl, sy'n un ohonoch chwi. Fe gewch yr holl hanes oddi yma ganddynt hwy.

10Y mae Aristarchus, fy nghydgarcharor, yn eich cyfarch; a Marc, cefnder Barnabas (cawsoch orchmynion ynglu375?n ag ef: os daw atoch, rhowch groeso iddo);

11a Jesws, a elwir Jwstus. Dyma'r unig gredinwyr Iddewig sy'n cydweithio � mi dros deyrnas Dduw; a buont yn gysur mawr imi.

12Y mae Epaffras, sy'n un ohonoch, caethwas Crist Iesu, yn eich cyfarch. Y mae ef bob amser yn gwedd�o'n daer drosoch chwi, ar ichwi sefyll yn gadarn, yn gredinwyr aeddfed, ac yn gwbl argyhoeddedig ym mhob dim y mae Duw yn ei ewyllysio.

13Yr wyf yn tystio amdano ei fod yn llafurio'n ddygn trosoch chwi, a thros y rhai sydd yn Laodicea ac yn Hierapolis.

14Y mae Luc, y meddyg annwyl, a Demas yn eich cyfarch.

15Cyfarchwch y credinwyr yn Laodicea, a Nymffa a'r eglwys sy'n ymgynnull yn ei thu375?.

16A phan fydd y llythyr hwn wedi ei ddarllen yn eich plith chwi, parwch iddo gael ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid. Yr ydych chwithau hefyd i ddarllen y llythyr o Laodicea.

17A dywedwch wrth Archipus, "Gofala dy fod yn cyflawni'r gwasanaeth a ymddiriedodd yr Arglwydd iti."

18Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. Cofiwch fy mod yng ngharchar. Gras fyddo gyda chwi!

>