Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 15:1-33 BCN1988 - Bible AI

1Y mae'n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau'r rhai sy'n eiddil eu cydwybod, a pheidio �'n plesio ein hunain.

2Y mae pob un ohonom i blesio ein cymydog, gan anelu at yr hyn sydd dda er adeiladu ein gilydd.

3Oherwydd nid ei blesio ei hun a wnaeth Crist. I'r gwrthwyneb, fel y mae'n ysgrifenedig: "Y mae gwaradwydd y rhai oedd yn dy waradwyddo di wedi syrthio arnaf fi."

4Ac fe ysgrifennwyd yr Ysgrythurau gynt er mwyn ein dysgu ni, er mwyn i ni, trwy ddyfalbarhad a thrwy eu hanogaeth hwy, ddal ein gafael yn ein gobaith.

5A rhodded Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth, i chwi fod yn gyt�n eich meddwl ymhlith eich gilydd, yn �l ewyllys Crist Iesu,

6er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.

7Am hynny, derbyniwch eich gilydd, fel y derbyniodd Crist chwi, er gogoniant Duw.

8Oherwydd yr wyf yn dweud bod Crist wedi dod yn was i'r Iddewon er mwyn dangos geirwiredd Duw, sef ei fod yn cadarnhau'r addewidion i'r hynafiaid,

9a hefyd er mwyn i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd. Fel y mae'n ysgrifenedig: "Oherwydd hyn, clodforaf di ymysg y Cenhedloedd, a chanaf i'th enw."

10Ac y mae'n dweud eilwaith: "Llawenhewch, Genhedloedd, ynghyd �'i bobl ef."

11Ac eto: "Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd, a'r holl bobloedd yn dyblu'r mawl."

12Y mae Eseia hefyd yn dweud: "Fe ddaw gwreiddyn Jesse, y gu373?r sy'n codi i lywodraethu'r Cenhedloedd; arno ef y bydd y Cenhedloedd yn seilio'u gobaith."

13A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi � phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Gl�n, yn gorlifo � gobaith.

14Yr wyf fi, o'm rhan fy hun, yn gwbl sicr, fy nghyfeillion, eich bod chwithau yn llawn daioni, yn gyforiog o bob gwybodaeth, ac yn alluog i hyfforddi eich gilydd.

15B�m braidd yn hy arnoch mewn mannau yn fy llythyr, wrth geisio deffro eich cof. Ond gwneuthum hyn ar bwys y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras,

16i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, yn gweini fel offeiriad ar Efengyl Duw, er mwyn cyflwyno'r Cenhedloedd iddo yn offrwm cymeradwy, offrwm wedi ei gysegru gan yr Ysbryd Gl�n.

17Yng Nghrist Iesu, felly, y mae gennyf le i ymffrostio yn fy ngwasanaeth i Dduw,

18oherwydd nid wyf am feiddio s�n am ddim ond yr hyn a gyflawnodd Crist trwof fi, yn y dasg o ennill y Cenhedloedd i ufuddhau iddo, mewn gair a gweithred,

19trwy rym arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth Ysbryd Duw. Ac felly, yr wyf fi wedi cwblhau cyhoeddi Efengyl Crist mewn cylch eang, o Jerwsalem cyn belled ag Ilyricum.

20Yn hyn oll fe'i cedwais yn nod i bregethu'r Efengyl yn y mannau hynny yn unig oedd heb glywed s�n am enw Crist, rhag i mi fod yn adeiladu ar sylfaen rhywun arall;

21fel y mae'n ysgrifenedig: "Bydd y rheini na chyhoeddwyd dim wrthynt amdano yn gweld, a'r rheini na chlywsant ddim amdano yn deall."

22Hwn oedd y rhwystr a'm cadwodd cyhyd o amser rhag dod atoch chwi.

23Ond yn awr, a minnau heb faes cenhadol mwyach yn yr ardaloedd hyn, a'r awydd arnaf ers blynyddoedd lawer i ddod atoch chwi

24pryd bynnag y byddaf ar fy ffordd i Sbaen, yr wyf yn gobeithio ymweld � chwi wrth fynd trwodd, a chael fy hebrwng gennych ar fy nhaith yno, ar �l mwynhau eich cwmni am ychydig.

25Ond ar hyn o bryd yr wyf ar fy ffordd i Jerwsalem, i fynd � chymorth i'r saint yno.

26Oherwydd y mae Macedonia ac Achaia wedi gweld yn dda gyfrannu i gronfa ar ran y tlodion ymhlith y saint yn Jerwsalem.

27Gwelsant yn dda, do, ond yr oeddent hefyd dan ddyled iddynt. Oherwydd os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u trysor ysbrydol hwy, y mae'n ddyled ar y Cenhedloedd weini arnynt mewn pethau tymhorol.

28Felly, pan fyddaf wedi cyflawni'r gorchwyl hwn, a gosod y casgliad yn ddiogel yn eu dwylo, caf gychwyn ar y daith i Sbaen a galw heibio i chwi.

29Gwn y bydd fy ymweliad � chwi dan fendith gyflawn Crist.

30Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy'r cariad sy'n ffrwyth yr Ysbryd: ymunwch � mi yn fy ymdrech, a gwedd�o ar Dduw trosof,

31ar i mi gael fy arbed rhag yr anghredinwyr yn Jwdea, ac i'r cymorth sydd gennyf i Jerwsalem fod yn dderbyniol gan y saint;

32ac felly i mi gael dod atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, a'm hatgyfnerthu yn eich cwmni.

33A Duw yr heddwch fyddo gyda chwi oll! Amen.

all>