Llythyr Paul at yr Effesiaid 4:1-32 BCN1988 - Bible AI

1Yr wyf fi, felly, sy'n garcharor er mwyn yr Arglwydd, yn eich annog i fyw yn deilwng o'r alwad a gawsoch.

2Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad.

3Ymrowch i gadw, � rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi.

4Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn eich galwad;

5un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,

6un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.

7Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist.

8Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth; rhoddodd roddion i bobl."

9Beth yw ystyr "esgynnodd"? Onid yw'n golygu ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear?

10Yr un a ddisgynnodd yw'r un a esgynnodd hefyd ymhell uwchlaw'r nefoedd i gyd, i lenwi'r holl greadigaeth.

11A dyma'i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon,

12i gymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist.

13Felly y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i'r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw. Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist.

14Nid ydym i fod yn fabanod mwyach, yn cael ein lluchio gan donnau a'n gyrru yma a thraw gan bob rhyw awel o athrawiaeth, wedi ein dal gan ystryw y rhai sy'n ddyfeisgar i gynllwynio twyll.

15Na, gadewch i ni ddilyn y gwir mewn cariad, a thyfu ym mhob peth i Grist. Ef yw'r pen,

16ac wrtho ef y mae'r holl gorff yn cael ei ddal wrth ei gilydd a'i gysylltu drwy bob cymal sy'n rhan ohono. Felly, trwy weithgarwch cyfaddas pob un rhan, ceir prifiant yn y corff, ac y mae'n ei adeiladu ei hun mewn cariad.

17Hyn, felly, yr wyf yn ei ddweud ac yn ei argymell arnoch yn yr Arglwydd, eich bod chwi bellach i beidio � byw fel y mae'r Cenhedloedd yn byw, yn oferedd eu meddwl;

18oherwydd tywyllwch sydd yn eu deall, a dieithriaid ydynt i'r bywyd sydd o Dduw, o achos yr anwybodaeth y maent yn ei choleddu a'r ystyfnigrwydd sydd yn eu calon.

19Pobl ydynt sydd wedi colli pob teimlad ac wedi ymollwng i'r anlladrwydd sy'n peri iddynt gyflawni pob math o aflendid yn ddiymatal.

20Ond nid felly yr ydych chwi wedi dysgu Crist,

21chwi sydd, yn wir, wedi clywed amdano ac wedi eich hyfforddi ynddo, yn union fel y mae'r gwirionedd yn Iesu.

22Fe'ch dysgwyd eich bod i roi heibio'r hen natur ddynol oedd yn perthyn i'ch ymarweddiad gynt ac sy'n cael ei llygru gan chwantau twyllodrus,

23a'ch bod i gael eich adnewyddu mewn ysbryd a meddwl,

24a gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd sydd wedi ei chreu ar ddelw Duw, yn y cyfiawnder a'r sancteiddrwydd sy'n gweddu i'r gwirionedd.

25Gan hynny, ymaith � chelwydd! Dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, oherwydd yr ydym yn aelodau o'n gilydd.

26Byddwch ddig, ond peidiwch � phechu; peidiwch � gadael i'r haul fachlud ar eich digofaint,

27a pheidiwch � rhoi cyfle i'r diafol.

28Y mae'r lleidr i beidio � lladrata mwyach; yn hytrach, dylai ymroi i weithio'n onest �'i ddwylo ei hun, er mwyn cael rhywbeth i'w rannu �'r sawl sydd mewn angen.

29Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o'ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn �l yr angen, ac felly'n dwyn bendith i'r sawl sy'n eu clywed.

30Peidiwch � thrist�u Ysbryd Gl�n Duw, yr Ysbryd y gosodwyd ei s�l arnoch ar gyfer dydd eich prynu'n rhydd.

31Bwriwch ymaith oddi wrthych bob chwerwder, llid, digofaint, twrw, a sen, ynghyd � phob drwgdeimlad.

32Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i'ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.

l>