Malachi 4:1-6 BCN1988 - Bible AI

1Wele'r dydd yn dod, yn llosgi fel ffwrnais, pan fydd yr holl rai balch a'r holl wneuthurwyr drwg yn sofl; bydd y dydd hwn sy'n dod yn eu llosgi," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "heb adael iddynt na gwreiddyn na changen.

2Ond i chwi sy'n ofni fy enw fe gyfyd haul cyfiawnder � meddyginiaeth yn ei esgyll, ac fe ewch allan a llamu fel lloi wedi eu gollwng.

3Fe sathrwch y rhai drwg, oherwydd byddant fel lludw dan wadnau eich traed, ar y dydd pan weithredaf," medd ARGLWYDD y Lluoedd.

4Cofiwch gyfraith fy ngwas Moses, y deddfau a'r ordeiniadau a orchmynnais iddo yn Horeb ar gyfer Israel gyfan.

5Wele fi'n anfon atoch Elias y proffwyd cyn dod dydd mawr ac ofnadwy'r ARGLWYDD.

6Ac fe dry galonnau'r rhieni at y plant a chalonnau'r plant at y rhieni, rhag imi ddod a tharo'r ddaear � difodiant."

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>