Micha 2:1-13 BCN1988 - Bible AI

1Gwae'r rhai sy'n dyfeisio niwed, ac yn llunio drygioni yn eu gwelyau, ac ar doriad dydd yn ei wneud, cyn gynted ag y bydd o fewn eu gallu.

2Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio, a thai, ac yn eu meddiannu; y maent yn treisio perchennog a'i du375?, dyn a'i etifeddiaeth.

3Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwg na all eich gwarrau ei osgoi; ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth, oherwydd bydd yn amser drwg.

4Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch, a chenir galargan chwerw a dweud, 'Yr ydym wedi'n difa'n llwyr; y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo. Sut y gall neb adfer i mi ein meysydd sydd wedi eu rhannu?'"

5Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbren yng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.

6Fel hyn y proffwydant: "Peidiwch � phroffwydo; peidied neb � phroffwydo am hyn; ni ddaw cywilydd arnom.

7A ddywedir hyn am du375? Jacob? A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd? Ai ei waith ef yw hyn? Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daioni i'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?

8Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelyn yn cipio ymaith fantell yr heddychol, ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.

9Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol, ac yn dwyn eu llety oddi ar eu plant am byth.

10Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi, oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio � dinistr creulon.

11Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud, 'Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn', c�i fod yn broffwyd i'r bobl hyn."

12Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob, a chynullaf ynghyd weddill Israel; gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra, fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.

13Fe �'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen; torrant hwythau trwy'r porth a rhuthro allan. � eu brenin o'u blaenau, a bydd yr ARGLWYDD yn eu harwain."

British and Foreign Bible Society, 1988
div>