Micha 6:1-16 BCN1988 - Bible AI

1Clywch yn awr beth a ddywed yr ARGLWYDD: "Cod, dadlau dy achos o flaen y mynyddoedd, a bydded i'r bryniau glywed dy lais.

2Clywch achos yr ARGLWYDD, chwi fynyddoedd, chwi gadarn sylfeini'r ddaear; oherwydd y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn ei bobl, ac fe'i dadlau yn erbyn Israel.

3O fy mhobl, beth a wneuthum i ti? Sut y blinais di? Ateb fi.

4Dygais di i fyny o'r Aifft, gwaredais di o du375?'r caethiwed, a rhoddais Moses, Aaron a Miriam i'th arwain.

5O fy mhobl, cofia beth oedd bwriad Balac brenin Moab, a sut yr atebodd Balaam fab Beor ef, a hefyd y daith o Sittim i Gilgal, er mwyn iti wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD."

6� pha beth y dof o flaen yr ARGLWYDD, a phlygu gerbron y Duw uchel? A ddof ger ei fron � phoethoffrymau, neu � lloi blwydd?

7A fydd yr ARGLWYDD yn fodlon ar filoedd o hyrddod neu ar fyrddiwn o afonydd olew? A rof fy nghyntafanedig am fy nghamwedd, fy mhlant fy hun am fy mhechod?

8Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda, a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt: dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.

9Clyw! Y mae'r ARGLWYDD yn gweiddi ar y ddinas � y mae llwyddiant o ofni ei enw: "Gwrando, di lwyth, a chyngor y ddinas.

10A anghofiaf enillion twyllodrus yn nhu375?'r twyllwr, a'r mesur prin sy'n felltigedig?

11A oddefaf gloriannau twyllodrus, neu gyfres o bwysau ysgafn?

12Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion yn dweud celwydd, a thafodau ffals yn eu genau.

13Ond yr wyf fi'n dy daro nes dy glwyfo, i'th anrheithio am dy bechodau:

14byddi'n bwyta, ond heb dy ddigoni, a bydd y bwyd yn pwyso ar dy stumog; byddi'n cilio, ond heb ddianc, a'r sawl a ddianc, fe'i lladdaf �'r cleddyf;

15byddi'n hau, ond heb fedi, yn sathru olewydd, ond heb ddefnyddio'r olew, a gwinwydd, ond heb yfed gwin.

16Cedwaist ddeddfau Omri, a holl weithredoedd tu375? Ahab, a dilynaist eu cynghorion, er mwyn imi dy wneud yn ddiffaith a'th drigolion yn gyff gwawd; a dygwch ddirmyg y bobl."

British and Foreign Bible Society, 1988
div>