Micha 7:1-20 BCN1988 - Bible AI

1Gwae fi! Yr wyf fel gweddillion ffrwythau haf, ac fel lloffion cynhaeaf gwin; nid oes grawnwin i'w bwyta, na'r ffigys cynnar a flysiaf.

2Darfu am y ffyddlon o'r tir, ac nid oes neb uniawn ar �l; y maent i gyd yn llechu i ladd, a phawb yn hela'i gilydd � rhwyd.

3Y mae eu dwylo'n fedrus mewn drygioni, y swyddog yn codi t�l a'r barnwr yn derbyn gwobr, a'r uchelwr yn mynegi ei ddymuniad llygredig.

4Y maent yn gwneud i'w cymwynas droi fel mieri, a'u huniondeb fel drain. Daeth y dydd y gwyliwyd amdano, dydd cosb; ac yn awr y bydd yn ddryswch iddynt.

5Peidiwch � rhoi hyder mewn cymydog, nac ymddiried mewn cyfaill; gwylia ar dy enau rhag gwraig dy fynwes.

6Oherwydd y mae'r mab yn amharchu ei dad, y ferch yn gwrthryfela yn erbyn ei mam, y ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith; a gelynion rhywun yw ei dylwyth ei hun.

7Ond edrychaf fi at yr ARGLWYDD, disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth; gwrendy fy Nuw arnaf.

8Paid � llawenychu yn f'erbyn, fy ngelyn; er imi syrthio, fe godaf. Er fy mod yn trigo mewn tywyllwch, bydd yr ARGLWYDD yn oleuni i mi.

9Dygaf ddig yr ARGLWYDD � oherwydd pechais yn ei erbyn � nes iddo ddadlau f'achos a rhoi dedfryd o'm plaid, nes iddo fy nwyn allan i oleuni, ac imi weld ei gyfiawnder.

10Yna fe w�l fy ngelyn a chywilyddio � yr un a ddywedodd wrthyf, "Ble mae'r ARGLWYDD dy Dduw?" Yna bydd fy llygaid yn gloddesta arno, pan sethrir ef fel baw ar yr heolydd.

11Bydd yn ddydd adeiladu dy furiau, yn ddydd ehangu terfynau,

12yn ddydd pan dd�nt atat o Asyria hyd yr Aifft, ac o'r Aifft hyd afon Ewffrates, o f�r i f�r, ac o fynydd i fynydd.

13Ond bydd y ddaear yn ddiffaith, oherwydd ei thrigolion; dyma ffrwyth eu gweithredoedd.

14Bugeilia dy bobl �'th ffon, y ddiadell sy'n etifeddiaeth iti, sy'n trigo ar wah�n mewn coedwig yng nghanol Carmel; porant Basan a Gilead fel yn y dyddiau gynt.

15Fel yn y dyddiau pan ddaethost allan o'r Aifft, fe ddangosaf iddynt ryfeddodau.

16Fe w�l y cenhedloedd, a chywilyddio er eu holl rym; rh�nt eu dwylo ar eu genau a bydd eu clustiau'n fyddar;

17llyfant y llwch fel neidr, fel ymlusgiaid y ddaear; d�nt yn grynedig allan o'u llochesau, a throi mewn dychryn at yr ARGLWYDD ein Duw, ac ofnant di.

18Pwy sydd Dduw fel ti, yn maddau camwedd, ac yn mynd heibio i drosedd gweddill ei etifeddiaeth? Nid yw'n dal ei ddig am byth, ond ymhyfryda mewn trugaredd.

19Bydd yn tosturio wrthym eto, ac yn golchi ein camweddau, ac yn taflu ein holl bechodau i eigion y m�r.

20Byddi'n ffyddlon i Jacob ac yn deyrngar i Abraham, fel y tyngaist i'n tadau yn y dyddiau gynt.

British and Foreign Bible Society, 1988
div>