Nahum 1:1-15 BCN1988 - Bible AI

1Oracl am Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum o Elcos.

2Duw eiddigeddus ac un sy'n dial yw'r ARGLWYDD; y mae'r ARGLWYDD yn dial ac yn llawn llid; y mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei wrthwynebwyr, ac yn dal dig at ei elynion.

3Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ond yn fawr o nerth, ac nid yw'n gadael yr euog yn ddi-gosb. Y mae ei ffordd yn y corwynt a'r dymestl, a llwch ei draed yw'r cymylau.

4Y mae'n ceryddu'r m�r ac yn ei sychu, ac yn gwneud pob afon yn hesb; gwywa Basan a Charmel, a derfydd gwyrddlesni Lebanon.

5Cryna'r mynyddoedd o'i flaen, a thodda'r bryniau; difrodir y ddaear o'i flaen, y byd a phopeth sy'n byw ynddo.

6Pwy a saif o flaen ei lid? Pwy a ddeil gynddaredd ei ddig? Tywelltir ei lid fel t�n, a dryllir y creigiau o'i flaen.

7Y mae'r ARGLWYDD yn dda � yn amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.

8Ond � llifeiriant ysgubol gwna ddiwedd llwyr ar ei wrthwynebwyr, ac fe ymlid ei elynion i'r tywyllwch.

9Beth a gynlluniwch yn erbyn yr ARGLWYDD? Gwna ef ddiwedd llwyr, fel na ddaw blinder ddwywaith.

10Fel perth o ddrain fe'u hysir, fel diotwyr �'u diod, fel sofl wedi sychu'n llwyr.

11Ohonot ti, Ninefe, y daeth allan un yn cynllwynio drygioni yn erbyn yr ARGLWYDD � cynghorwr dieflig.

12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Er eu bod yn gyflawn a niferus, eto fe'u torrir i lawr, a darfyddant. Er imi dy flino, ni flinaf di mwyach.

13Yn awr, fe ddrylliaf ei iau oddi arnat, a thorraf dy rwymau."

14Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat: "Ni fydd had o'th hil mwyach; torraf ymaith ddelw ac eilun o du375? dy dduwiau; a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig."

15Wele ar y mynyddoedd draed y negesydd yn cyhoeddi heddwch. Dathla dy wyliau, O Jwda, t�l dy addunedau, oherwydd ni ddaw'r dieflig i'th oresgyn byth eto; fe'i torrwyd ymaith yn llwyr.

British and Foreign Bible Society, 1988
div>