Nehemeia 1:1-11 BCN1988 - Bible AI

1Geiriau Nehemeia fab Hachaleia. Ym mis Cislef yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn yn y palas yn Susan,

2cyrhaeddodd Hanani, un o'm brodyr, a gwu375?r o Jwda gydag ef. Holais hwy am Jerwsalem ac am yr Iddewon, y rhai dihangol a adawyd ar �l heb fynd i'r gaethglud.

3Dywedasant hwythau wrthyf, "Y mae'r gweddill a adawyd ar �l yn y dalaith, heb eu caethgludo, mewn trybini mawr a gofid; drylliwyd mur Jerwsalem a llosgwyd ei phyrth � th�n."

4Pan glywais hyn eisteddais i lawr ac wylo, a b�m yn galaru ac yn ymprydio am ddyddiau, ac yn gwedd�o ar Dduw y nefoedd.

5Dywedais, "O ARGLWYDD Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,

6yn awr bydded dy glust yn gwrando a'th lygaid yn agored i dderbyn y weddi yr wyf fi, dy was, yn ei gwedd�o o'th flaen ddydd a nos, dros blant Israel, dy weision. Yr wyf yn cyffesu'r pechodau a wnaethom ni, bobl Israel, yn dy erbyn; yr wyf fi a thu375? fy nhad wedi pechu yn dy erbyn,

7ac ymddwyn yn llygredig iawn tuag atat trwy beidio � chadw'r gorchmynion a'r deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnaist i'th was Moses.

8Cofia'r rhybudd a roddaist i'th was Moses pan ddywedaist, 'Os byddwch yn anffyddlon, byddaf fi'n eich gwasgaru ymysg y bobloedd;

9ond os dychwelwch ataf a chadw fy ngorchmynion a'u gwneud, byddaf yn casglu'r rhai a wasgarwyd hyd gyrion byd, ac yn eu cyrchu i'r lle a ddewisais i roi fy enw yno.'

10Dy weision a'th bobl di ydynt � rhai a waredaist �'th allu mawr ac �'th law nerthol.

11O ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was a'th weision sy'n ymhyfrydu mewn parchu dy enw, a rho lwyddiant i'th was heddiw a ph�r iddo gael trugaredd gerbron y gu373?r hwn." Yr oeddwn i yn drulliad i'r brenin.

>