Nehemeia 2:1-20 BCN1988 - Bible AI

1Ac ym mis Nisan, yn ugeinfed flwyddyn y Brenin Artaxerxes, cymerais y gwin oedd wedi ei osod o'i flaen, a'i roi iddo. Yr oeddwn yn drist yn ei u373?ydd,

2a gofynnodd y brenin i mi, "Pam yr wyt yn drist? Nid wyt yn glaf; felly nid yw hyn ond tristwch calon." Daeth ofn mawr arnaf

3a dywedais, "O frenin, bydd fyw byth! Sut y medraf beidio ag edrych yn drist pan yw'r ddinas lle y claddwyd fy hynafiaid yn adfeilion, a'i phyrth wedi eu hysu � th�n?"

4Dywedodd y brenin, "Beth yw dy ddymuniad?" Yna gwedd�ais ar Dduw'r nefoedd,

5a dweud wrth y brenin, "Os gw�l y brenin yn dda, ac os yw dy was yn gymeradwy gennyt, anfon fi i Jwda, i'r ddinas lle y claddwyd fy hynafiaid, i'w hailadeiladu."

6Ac meddai'r brenin wrthyf, a'r frenhines yn eistedd wrth ei ochr, "Pa mor hir fydd dy daith, a pha bryd y dychweli?" Rhoddais amser penodol oedd yn dderbyniol i'r brenin, a gadawodd yntau imi fynd.

7Yna dywedais wrtho, "Os gw�l y brenin yn dda, rho i mi lythyrau at lywodraethwyr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates er mwyn iddynt hwyluso fy nhaith i Jwda,

8a llythyr hefyd at Asaff, ceidwad y goedwig frenhinol, yn gofyn iddo roi coed imi i wneud trawstiau ar gyfer pyrth y palas sydd yn ymyl y deml, a muriau'r ddinas a'r tu375? y byddaf yn byw ynddo." Trwy ffafr fy Nuw cefais fy nymuniad gan y brenin.

9Yr oedd y brenin wedi anfon gyda mi swyddogion o'r fyddin a marchogion, a phan ddeuthum at lywodraethwyr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates rhoddais iddynt lythyrau'r brenin.

10Ond pan glywodd Sanbalat yr Horoniad a'r gwas Tobeia yr Ammoniad am hyn, yr oeddent yn flin iawn fod rhywun wedi dod i geisio cynorthwyo pobl Israel.

11Wedi imi gyrraedd Jerwsalem a bod yno dridiau,

12codais liw nos, myfi a'r ychydig ddynion oedd gyda mi, ond heb ddweud wrth neb beth oedd fy Nuw wedi ei roi yn fy meddwl i'w wneud i Jerwsalem. Nid oedd anifail gyda mi ar wah�n i'r un yr oeddwn yn marchogaeth arno.

13Euthum allan liw nos trwy Borth y Glyn i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig ac at Borth y Dom, ac archwilio muriau drylliedig Jerwsalem a hefyd ei phyrth a losgwyd � th�n.

14Euthum ymlaen i Borth y Ffynnon ac i Lyn y Brenin, ond nid oedd lle i'm hanifail fynd trwodd.

15Euthum i fyny'r dyffryn liw nos i archwilio'r mur, ac yna troi'n �l a dychwelyd trwy Borth y Glyn.

16Ni wyddai'r swyddogion i ble yr oeddwn wedi mynd na beth yr oeddwn yn ei wneud; hyd yma nid oeddwn wedi dweud dim wrth yr Iddewon na'r offeiriaid na'r penaethiaid na'r swyddogion na'r rhai a fyddai'n gyfrifol am wneud y gwaith.

17Yna dywedais wrthynt, "Yr ydych yn gweld y trybini yr ydym ynddo; y mae Jerwsalem yn adfeilion a'i phyrth wedi eu llosgi � th�n; dewch, adeiladwn fur Jerwsalem rhag inni fod yn waradwydd mwyach."

18Dywedais wrthynt fel yr oedd fy Nuw wedi fy helpu, a hefyd yr hyn a ddywedodd y brenin wrthyf. Yna dywedasant, "Awn ati i adeiladu." A bu iddynt ymroi i'r gwaith yn ewyllysgar.

19Pan glywodd Sanbalat yr Horoniad, a'r gwas Tobeia yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, gwatwarasant ni a'n dirmygu a gofyn, "Beth yw hyn yr ydych yn ei wneud? A ydych yn gwrthryfela yn erbyn y brenin?"

20Atebais hwy a dweud, "Bydd Duw y nefoedd yn rhoi llwyddiant i ni, ac yr ydym ninnau, ei weision ef, yn mynd ati i adeiladu. Ond nid oes gennych chwi ran na hawl na braint yn Jerwsalem."

>