Nehemeia 7:1-73 BCN1988 - Bible AI

1Yna, wedi i'r mur gael ei ailgodi, ac imi osod y dorau, ac i'r porthorion a'r cantorion a'r Lefiaid gael eu penodi,

2rhoddais Jerwsalem yng ngofal Hanani fy mrawd a Hananeia arolygwr y palas, oherwydd yr oedd ef yn ddyn gonest ac yn parchu Duw'n fwy na'r mwyafrif.

3A dywedais wrthynt, "Nid yw pyrth Jerwsalem i fod ar agor nes bod yr haul wedi codi; a chyn iddo fachlud rhaid cau'r dorau a'u cloi. Trefnwch drigolion Jerwsalem yn wylwyr, pob un i wylio yn ei dro, a phob un yn ymyl ei du375? ei hun."

4Yr oedd y ddinas yn fawr ac yn eang, ond ychydig o bobl oedd ynddi, a'r tai heb eu hailgodi.

5Rhoddodd Duw yn fy meddwl i gasglu ynghyd y pendefigion, y swyddogion a'r bobl i'w cofrestru. Deuthum o hyd i lyfr achau y rhai a ddaeth yn gyntaf o'r gaethglud, a dyma oedd wedi ei ysgrifennu ynddo:

6Dyma bobl y dalaith a ddychwelodd o gaethiwed, o'r gaethglud a ddygwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, ac a ddaeth yn �l i Jerwsalem ac i Jwda, pob un i'w dref ei hun.

7Gyda Sorobabel yr oedd Jesua, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nahmani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum a Baana.

8Rhestr teuluoedd pobl Israel: teulu Paros, dwy fil un cant saith deg a dau;

9teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau;

10teulu Ara, chwe chant pum deg a dau;

11teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant un deg ac wyth;

12teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar;

13teulu Sattu, wyth gant pedwar deg a phump;

14teulu Saccai, saith gant chwe deg;

15teulu Binnui, chwe chant pedwar deg ac wyth;

16teulu Bebai, chwe chant dau ddeg ac wyth;

17teulu Asgad, dwy fil tri chant dau ddeg a dau;

18teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a saith;

19teulu Bigfai, dwy fil chwe deg a saith;

20teulu Adin, chwe chant pum deg a phump;

21teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg ac wyth;

22teulu Hasum, tri chant dau ddeg ac wyth;

23teulu Besai, tri chant dau ddeg a phedwar;

24teulu Hariff, cant a deuddeg;

25teulu Gibeon, naw deg a phump.

26Gwu375?r Bethlehem a Netoffa, cant wyth deg ac wyth;

27gwu375?r Anathoth, cant dau ddeg ac wyth;

28gwu375?r Beth-asmafeth, pedwar deg a dau;

29gwu375?r Ciriath-jearim a Ceffira a Beeroth, saith gant pedwar deg a thri;

30gwu375?r Rama a Geba, chwe chant dau ddeg ac un;

31gwu375?r Michmas, cant dau ddeg a dau;

32gwu375?r Bethel ac Ai, cant dau ddeg a thri;

33gwu375?r y Nebo arall, pum deg a dau.

34Teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar;

35teulu Harim, tri chant dau ddeg;

36teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump;

37teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg ac un;

38teulu Senaa, tair mil naw cant tri deg.

39Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri;

40teulu Immer, mil pum deg a dau;

41teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith;

42teulu Harim, mil un deg a saith.

43Y Lefiaid: teulu Jesua, hynny yw Cadmiel, o linach Hodefa, saith deg a phedwar.

44Y cantorion: teulu Asaff, cant pedwar deg ac wyth.

45Y porthorion: teuluoedd Salum, Ater, Talmon, Accub, Hatita a Sobai, cant tri deg ac wyth.

46Gweision y deml: teuluoedd Siha, Hasuffa, Tabbaoth,

47Ceros, S�a, Padon,

48Lebana, Hagaba, Salmai,

49Hanan, Gidel, Gahar,

50Reaia, Resin, Necoda,

51Gassam, Ussa, Pasea,

52Besai, Meunim, Neffisesim,

53Bacbuc, Hacuffa, Harhur,

54Baslith, Mehida, Harsa,

55Barcos, Sisera, Tama,

56Neseia a Hatiffa.

57Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Sotai, Soffereth, Perida,

58Jala, Darcon, Gidel,

59Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Amon.

60Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.

61Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adon ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras:

62teuluoedd Delaia, Tobeia a Necoda, chwe chant pedwar deg a dau.

63Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw.

64Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth,

65a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori �'r Wrim a'r Twmim.

66Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg,

67heblaw eu gweision a'u morynion a oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant pedwar deg a phump o gantorion a chantoresau,

68saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod,

69pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.

70Cyfrannodd rhai o'r pennau-teuluoedd tuag at y gwaith. Rhoddodd y llywodraethwr i'r drysorfa fil o ddracmonau aur, pum deg o gostrelau a phum cant tri deg o wisgoedd offeiriadol.

71Rhoddodd rhai o'r pennau-teuluoedd i drysorfa'r gwaith ugain mil o ddracmonau aur a dwy fil dau gant o fin�u o arian.

72A'r hyn a roddodd y gweddill o'r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o fin�u o arian, a chwe deg a saith o wisgoedd offeiriadol.

73Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn Jerwsalem; yr oedd y porthorion a'r cantorion a rhai o'r bobl a gweision y deml yn byw yn y cyffiniau, a'r Israeliaid eraill yn byw yn eu trefi eu hunain.

>