1Ar y dydd cyntaf o'r ail fis yn yr ail flwyddyn wedi i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mhabell y cyfarfod yn anialwch Sinai, a dweud,
2Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn �l eu tylwythau a'u teuluoedd, gan restru enw pob gwryw fesul un.
3Yr wyt ti ac Aaron i gyfrif, fesul mintai, bawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
4Gyda chwi bydd un dyn o bob llwyth, sef y penteulu.
5Dyma enwau'r dynion a fydd gyda chwi. O Reuben: Elisur fab Sedeur;
6o Simeon: Selumiel fab Surisadai;
7o Jwda: Nahson fab Amminadab;
8o Issachar: Nethanel fab Suar;
9o Sabulon: Eliab fab Helon.
10O feibion Joseff: o Effraim, Elisama fab Ammihud, ac o Manasse, Gamaliel fab Pedasur;
11o Benjamin: Abidan fab Gideoni;
12o Dan: Ahieser fab Ammisadai;
13o Aser: Pagiel fab Ocran;
14o Gad: Eliasaff fab Reuel;
15o Nafftali: Ahira fab Enan."
16Dyma'r rhai a ddewiswyd o'r cynulliad yn arweinwyr llwythau eu hynafiaid ac yn benaethiaid ar dylwythau Israel.
17Cymerodd Moses ac Aaron y dynion hyn y rhoddwyd eu henwau,
18ac ar y dydd cyntaf o'r ail fis casglwyd ynghyd yr holl gynulliad. Rhestrwyd y bobl yn �l eu tylwythau a'u teuluoedd, a rhifwyd fesul un bawb oedd yn ugain oed a throsodd.
19Felly, cyfrifodd Moses hwy yn anialwch Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
20O dylwyth Reuben, cyntafanedig Israel, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
21Nifer llwyth Reuben oedd pedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
22O dylwyth Simeon, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
23Nifer llwyth Simeon oedd pum deg naw o filoedd a thri chant.
24O dylwyth Gad, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
25Nifer llwyth Gad oedd pedwar deg pump o filoedd chwe chant a phum deg.
26O dylwyth Jwda, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
27Nifer llwyth Jwda oedd saith deg pedair o filoedd a chwe chant.
28O dylwyth Issachar, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
29Nifer llwyth Issachar oedd pum deg pedair o filoedd a phedwar cant.
30O dylwyth Sabulon, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
31Nifer llwyth Sabulon oedd pum deg saith o filoedd a phedwar cant.
32O dylwyth Joseff, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
33Nifer llwyth Effraim oedd pedwar deg o filoedd a phum cant.
34O dylwyth Manasse, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
35Nifer llwyth Manasse oedd tri deg dwy o filoedd a dau gant.
36O dylwyth Benjamin, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
37Nifer llwyth Benjamin oedd tri deg pump o filoedd a phedwar cant.
38O dylwyth Dan, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
39Nifer llwyth Dan oedd chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
40O dylwyth Aser, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
41Nifer llwyth Aser oedd pedwar deg un o filoedd a phum cant.
42O dylwyth Nafftali, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
43Nifer llwyth Nafftali oedd pum deg tair o filoedd a phedwar cant.
44Dyma'r rhai a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron gyda chymorth arweinwyr Israel, deuddeg ohonynt, pob un yn cynrychioli tu375? ei hynafiaid.
45Gwnaed cyfrif o bobl Israel, yn �l eu teuluoedd, gan gynnwys pawb oedd yn ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel;
46y cyfanswm oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.
47Ond ni rifwyd y Lefiaid yn �l llwythau eu hynafiaid ymysg pobl Israel,
48oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,
49Paid � chyfrif llwyth Lefi, na'u cynnwys mewn cyfrifiad o bobl Israel;
50ond penoda'r Lefiaid i ofalu am babell y dystiolaeth, ei holl ddodrefn, a phopeth a berthyn iddi. Hwy sydd i gludo'r babell a'i holl ddodrefn, a hwy sydd i ofalu amdani a gwersyllu o'i hamgylch.
51Pan fydd yn amser symud y babell, y Lefiaid fydd yn ei thynnu i lawr; a phan fydd yn amser i aros, y Lefiaid fydd yn ei chodi. Rhodder i farwolaeth unrhyw un arall a ddaw ar ei chyfyl.
52Bydd pobl Israel yn gwersyllu yn �l eu minteioedd, pob un yn ei wersyll ei hun a than ei faner ei hun.
53Ond bydd y Lefiaid yn gwersyllu o amgylch pabell y dystiolaeth, rhag i ddigofaint ddod yn erbyn cynulliad pobl Israel; bydd pabell y dystiolaeth dan ofal y Lefiaid."
54Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.