Numeri 17:1-13 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2Llefara wrth bobl Israel, a chymer wialen gan bob un o arweinwyr y tylwythau, deuddeg i gyd. Ysgrifenna enw pob dyn ar ei wialen,

3ond ar wialen Lefi ysgrifenna enw Aaron. Felly bydd gan bob un o arweinwyr y tylwythau wialen.

4Yna yr wyt i osod y gwiail ym mhabell y cyfarfod, o flaen y dystiolaeth, lle byddaf yn cwrdd � thi.

5Bydd gwialen y dyn a ddewisaf fi yn blaguro; dyma sut y rhoddaf daw ar yr Israeliaid sy'n grwgnach yn dy erbyn."

6Felly llefarodd Moses wrth bobl Israel, a rhoddodd pob un o arweinwyr y tylwythau wialen iddo, deuddeg i gyd; ac yr oedd gwialen Aaron ymhlith eu gwiail hwy.

7Yna gosododd Moses y gwiail gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y dystiolaeth.

8Trannoeth aeth Moses i mewn i babell y dystiolaeth, a gwelodd fod gwialen Aaron, a oedd yn cynrychioli tu375? Lefi, wedi blaguro a blodeuo a dwyn almonau aeddfed.

9Yna daeth Moses �'r holl wiail oedd gerbron yr ARGLWYDD allan at holl bobl Israel, ac wedi iddynt eu gweld, cymerodd pob dyn ei wialen.

10Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Rho wialen Aaron yn �l o flaen y dystiolaeth fel arwydd i'r rhai gwrthryfelgar; rhydd hyn daw ar eu grwgnach yn f'erbyn, rhag iddynt farw."

11Gwnaeth Moses yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

12Dywedodd pobl Israel wrth Moses, "Edrych, yr ydym yn trengi! Y mae wedi darfod amdanom! Y mae wedi darfod am bob un ohonom!

13Bydd pob un sy'n nes�u at dabernacl yr ARGLWYDD yn marw. Ai trengi fydd tynged pob un ohonom?"