Numeri 2:1-34 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

2Bydd pobl Israel yn gwersyllu o amgylch pabell y cyfarfod, ychydig oddi wrthi, pob un dan ei faner ei hun a than arwydd tu375? ei dad.

3Ar ochr y dwyrain, tua chodiad haul, bydd minteioedd gwersyll Jwda yn gwersyllu o dan eu baner.

4Nahson fab Amminadab fydd arweinydd pobl Jwda, a nifer ei lu yn saith deg pedair o filoedd a chwe chant.

5Llwyth Issachar fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Nethanel fab Suar fydd arweinydd pobl Issachar,

6a nifer ei lu yn bum deg pedair o filoedd a phedwar cant.

7Yna llwyth Sabulon; Eliab fab Helon fydd arweinydd pobl Sabulon,

8a nifer ei lu yn bum deg saith o filoedd a phedwar cant.

9Cyfanswm gwersyll Jwda, yn �l eu minteioedd, fydd cant wyth deg chwech o filoedd a phedwar cant. Hwy fydd y rhai cyntaf i gychwyn ar y daith.

10Ar ochr y de bydd minteioedd gwersyll Reuben o dan eu baner. Elisur fab Sedeur fydd arweinydd pobl Reuben,

11a nifer ei lu yn bedwar deg chwech o filoedd a phum cant.

12Llwyth Simeon fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Selumiel fab Suresadai fydd arweinydd pobl Simeon,

13a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant.

14Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad,

15a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg.

16Cyfanswm gwersyll Reuben, yn �l eu minteioedd, fydd cant pum deg un o filoedd pedwar cant a phum deg. Hwy fydd yr ail i gychwyn allan.

17Yna bydd pabell y cyfarfod a gwersyll y Lefiaid yn cychwyn allan yng nghanol y gwersylloedd eraill. Byddant yn ymdeithio yn y drefn y byddant yn gwersyllu, pob un yn ei le a than ei faner ei hun.

18Ar ochr y gorllewin bydd minteioedd gwersyll Effraim o dan eu baner. Elisama fab Ammihud fydd arweinydd pobl Effraim,

19a nifer ei lu yn bedwar deg o filoedd a phum cant.

20Yn nesaf ato bydd llwyth Manasse. Gamaliel fab Pedasur fydd arweinydd pobl Manasse,

21a nifer ei lu yn dri deg dwy o filoedd a dau gant.

22Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin,

23a nifer ei lu yn dri deg pump o filoedd a phedwar cant.

24Cyfanswm gwersyll Effraim, yn �l eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan.

25Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan,

26a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant.

27Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser,

28a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant.

29Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali,

30a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant.

31Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun."

32Dyma bobl Israel a gyfrifwyd yn �l eu teuluoedd. Cyfanswm y rhai a rifwyd yn eu gwersylloedd ac yn �l eu minteioedd oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.

33Ond, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, ni rifwyd y Lefiaid ymysg pobl Israel.

34Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, gan wersyllu dan eu baneri a chychwyn allan, fesul tylwyth, yn �l eu teuluoedd.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>