Numeri 21:1-35 BCN1988 - Bible AI

1Pan glywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef, fod yr Israeliaid yn dod ar hyd ffordd Atharaim, ymosododd arnynt a chymryd rhai ohonynt yn garcharorion.

2Gwnaeth Israel adduned i'r ARGLWYDD, a dweud, "Os rhoddi di'r bobl hyn yn ein dwylo, yna fe ddinistriwn eu dinasoedd yn llwyr."

3Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar gri Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo; dinistriodd yr Israeliaid hwy a'u dinasoedd, ac felly y galwyd y lle yn Horma.

4Yna aeth yr Israeliaid o Fynydd Hor ar hyd ffordd y M�r Coch, ac o amgylch gwlad Edom. Dechreuodd y bobl fod yn anniddig ar y daith,

5a siarad yn erbyn Duw a Moses, a dweud, "Pam y daethoch � ni o'r Aifft i farw yn yr anialwch? Nid oes yma na bwyd na diod, ac y mae'n gas gennym y bwyd gwael hwn."

6Felly anfonodd yr ARGLWYDD seirff gwenwynig ymysg y bobl, a bu nifer o'r Israeliaid farw wedi iddynt gael eu brathu ganddynt.

7Yna daeth y bobl at Moses, a dweud, "Yr ydym wedi pechu trwy siarad yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di; gwedd�a ar i'r ARGLWYDD yrru'r seirff ymaith oddi wrthym." Felly gwedd�odd Moses ar ran y bobl,

8a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Gwna sarff a'i gosod ar bolyn, a bydd pawb a frathwyd, o edrych arni, yn cael byw."

9Felly gwnaeth Moses sarff bres, a'i gosod ar bolyn, a phan fyddai rhywun yn cael ei frathu gan sarff, byddai'n edrych ar y sarff bres, ac yn byw.

10Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Oboth,

11a mynd oddi yno a gwersyllu yn Ije-abarim, yn yr anialwch sydd gyferbyn � Moab, tua chodiad haul.

12Wedi cychwyn oddi yno, a gwersyllu yn nyffryn Sared,

13aethant ymlaen, a gwersyllu yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o derfyn yr Amoriaid; yr oedd Arnon ar y ffin rhwng Moab a'r Amoriaid.

14Dyna pam y mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn s�n am "Waheb yn Suffa a'r dyffrynnoedd,

15Arnon a llechweddau'r dyffrynnoedd sy'n ymestyn at safle Ar ac yn gorffwys ar derfyn Moab."

16Oddi yno aethant i Beer, y ffynnon y soniodd yr ARGLWYDD amdani wrth Moses, pan ddywedodd, "Cynnull y bobl ynghyd, er mwyn i mi roi du373?r iddynt."

17Yna canodd Israel y g�n hon: "Tardda, ffynnon! Canwch iddi �

18y ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a agorodd penaethiaid y bobl �'u gwiail a'u ffyn." Aethant ymlaen o'r anialwch i Mattana,

19ac oddi yno i Nahaliel; yna i Bamoth,

20ac ymlaen i'r dyffryn sydd yng ngwlad Moab, ger copa Pisga, sy'n edrych i lawr dros yr anialdir.

21Yna anfonodd Israel genhadon at Sihon brenin yr Amoriaid i ddweud,

22Gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am droi i mewn i'th gaeau na'th winllannoedd, nac yfed du373?r o'r ffynhonnau; fe gadwn at briffordd y brenin, nes inni fynd trwy dy diriogaeth."

23Ond nid oedd Sihon am adael i Israel fynd trwy ei diriogaeth; felly cynullodd ei holl fyddin, ac aeth allan i'r anialwch yn erbyn Israel, a phan ddaeth i Jahas, ymosododd arnynt.

24Ond lladdodd yr Israeliaid ef � min y cleddyf, a chymryd meddiant o'i dir, o Arnon i Jabboc, a hyd at derfyn yr Amoriaid, er mor gadarn oedd hwnnw.

25Meddiannodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, ac ymsefydlu yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, ac yn Hesbon a'i holl bentrefi.

26Hesbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid; yr oedd wedi ymladd yn erbyn brenin blaenorol Moab, a chipio'i holl dir hyd at Arnon.

27Dyna pam y canodd y beirdd: "Dewch i Hesbon a'i hadeiladu! Gwnewch yn gadarn ddinas Sihon!

28Oherwydd aeth t�n allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sihon, a difa Ar yn Moab a pherchnogion mynydd-dir Arnon.

29Gwae di, Moab! Darfu amdanoch, chwi bobl Cemos! Gwnaeth ei feibion yn ffoaduriaid, a'i ferched yn gaethion i Sihon brenin yr Amoriaid.

30Saethasom hwy, a darfu amdanynt o Hesbon hyd Dibon, ac yr ydym wedi eu dymchwel o Noffa hyd Medeba."

31Felly y daeth Israel i fyw yng ngwlad yr Amoriaid.

32Anfonodd Moses rai i ysb�o Jaser cyn meddiannu eu pentrefi, a gyrru allan yr Amoriaid a oedd yno.

33Yna troesant a mynd ar hyd ffordd Basan; ond daeth Og brenin Basan a'i holl fyddin allan yn eu herbyn, ac ymladd � hwy yn Edrei.

34Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Paid �'i ofni, oherwydd yr wyf wedi ei roi ef a'i holl fyddin a'i dir yn dy law; gwna iddo ef yr hyn a wnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Hesbon."

35Felly lladdasant ef, ei feibion a'i holl fyddin, heb adael un yn weddill; yna meddianasant ei dir.