Numeri 22:1-41 BCN1988 - Bible AI

1Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Jericho yng ngwastadedd Moab, y tu draw i'r Iorddonen.

2Yr oedd Balac fab Sippor wedi gweld y cyfan a wnaeth Israel i'r Amoriaid,

3a daeth ofn mawr ar Moab am fod yr Israeliaid mor niferus. Yr oedd y Moabiaid yn arswydo rhagddynt,

4a dywedasant wrth henuriaid Midian, "Bydd y cynulliad hwn yn awr yn llyncu popeth o'n cwmpas, fel y mae'r ych yn llyncu glaswellt y maes." Yr oedd Balac fab Sippor yn frenin Moab ar y pryd,

5ac anfonodd ef genhadau at Balaam fab Beor yn Pethor, sydd yng ngwlad Amaw ac ar lan yr Ewffrates, a dweud, "Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad, ac y maent bellach gyferbyn � mi.

6Tyrd, yn awr, a melltithia'r bobl hyn imi, oherwydd y maent yn gryfach na mi; yna, hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan o'r wlad, oherwydd gwn y daw bendith i'r sawl yr wyt ti'n ei fendithio, a melltith i'r sawl yr wyt ti'n ei felltithio."

7Felly aeth henuriaid Moab a Midian at Balaam, gyda'r t�l am ddewino yn eu llaw, a rhoi iddo'r neges oddi wrth Balac.

8Dywedodd Balaam wrthynt, "Arhoswch yma heno; dychwelaf � gair atoch, yn �l fel y bydd yr ARGLWYDD wedi llefaru wrthyf." Felly arhosodd tywysogion Moab gyda Balaam. Yna daeth Duw at Balaam, a gofyn,

9Pwy yw'r dynion hyn sydd gyda thi?"

10Atebodd Balaam ef, "Anfonodd Balac fab Sippor, brenin Moab, neges ataf yn dweud,

11'Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad; tyrd, yn awr, a melltithia hwy imi; yna hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan.'"

12Dywedodd Duw wrth Balaam, "Paid � mynd gyda hwy, na melltithio'r bobl, oherwydd y maent wedi eu bendithio."

13Felly cododd Balaam drannoeth, a dweud wrth dywysogion Balac, "Ewch yn �l i'ch gwlad, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD i mi ddod gyda chwi."

14Yna cododd tywysogion Moab a mynd at Balac a dweud, "Y mae Balaam yn gwrthod dod gyda ni."

15Anfonodd Balac dywysogion eilwaith, ac yr oedd y rhain yn fwy niferus ac anrhydeddus na'r lleill.

16Daethant at Balaam a dweud wrtho, "Dyma a ddywed Balac fab Sippor, 'Paid � gadael i ddim dy rwystro rhag dod ataf;

17fe ddeliaf yn gwbl anrhydeddus � thi, ac fe wnaf y cyfan a ddywedi wrthyf; felly tyrd, a melltithia'r bobl hyn imi.'"

18Ond dywedodd Balaam wrth weision Balac, "Pe bai Balac yn rhoi imi lond ei du375? o arian ac aur, ni allaf wneud yn groes i'r hyn y bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn ei orchymyn.

19Yn awr, arhoswch yma heno, er mwyn imi wybod beth arall a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf."

20Daeth Duw at Balaam liw nos, a dweud wrtho, "Os yw'r dynion wedi dod i'th gyrchu, yna dos gyda hwy; ond paid � gwneud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti."

21Cododd Balaam drannoeth, ac ar �l cyfrwyo ei asen, aeth gyda thywysogion Moab.

22Ond digiodd Duw wrtho am fynd, a safodd angel yr ARGLWYDD ar y ffordd i'w rwystro. Fel yr oedd yn marchogaeth ar ei asen, a'i ddau was gydag ef,

23fe welodd yr asen angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a chleddyf yn barod yn ei law; felly trodd yr asen oddi ar y ffordd, ac aeth i mewn i gae. Yna trawodd Balaam hi er mwyn ei throi yn �l i'r ffordd.

24Safodd angel yr ARGLWYDD wedyn ar lwybr yn arwain trwy'r gwinllannoedd, a wal o boptu iddo.

25Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gwthiodd yn erbyn y wal, gan wasgu troed Balaam rhyngddi a'r wal.

26Felly trawodd Balaam yr asen eilwaith. Yna aeth angel yr ARGLWYDD ymlaen a sefyll mewn lle mor gyfyng fel nad oedd modd troi i'r dde na'r chwith.

27Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gorweddodd dan Balaam; ond gwylltiodd yntau, a tharo'r asen �'i ffon.

28Yna agorodd yr ARGLWYDD enau'r asen, a pheri iddi ddweud wrth Balaam, "Beth a wneuthum iti, dy fod wedi fy nharo deirgwaith?"

29Atebodd Balaam hi, "Fe wnaethost ffu373?l ohonof. Pe bai gennyf gleddyf yn fy llaw, byddwn yn dy ladd."

30Yna gofynnodd yr asen i Balaam, "Onid myfi yw'r asen yr wyt wedi ei marchogaeth trwy gydol dy oes hyd heddiw? A wneuthum y fath beth � thi erioed o'r blaen?" Atebodd yntau, "Naddo."

31Yna agorodd yr ARGLWYDD lygaid Balaam, a phan welodd ef angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn barod yn ei law, plygodd ei ben ac ymgrymu ar ei wyneb.

32Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrtho, "Pam y trewaist dy asen y teirgwaith hyn? Fe ddeuthum i'th rwystro am dy fod yn rhuthro i fynd o'm blaen,

33ond gwelodd dy asen fi, a throi oddi wrthyf deirgwaith. Pe na bai wedi troi oddi wrthyf, buaswn wedi dy ladd di ac arbed dy asen."

34Dywedodd Balaam wrth angel yr ARGLWYDD, "Yr wyf wedi pechu; ni wyddwn dy fod yn sefyll ar y ffordd i'm rhwystro. Yn awr, os yw'r hyn a wneuthum yn ddrwg yn dy olwg, fe ddychwelaf adref."

35Ond dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Balaam, "Dos gyda'r dynion; ond paid � dweud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti." Felly aeth Balaam yn ei flaen gyda thywysogion Balac.

36Pan glywodd Balac fod Balaam yn dod, aeth allan i'w gyfarfod yn Ar yn Moab, ar y ffin bellaf ger afon Arnon.

37Dywedodd Balac wrtho, "Onid anfonais neges atat i'th alw? Pam na ddaethost ataf? Oni allaf ddelio'n anrhydeddus � thi?"

38Atebodd Balaam ef, "Dyma fi wedi dod atat! Yn awr, a yw'r gallu gennyf i lefaru unrhyw beth ohonof fy hun? Ni allaf lefaru ond y gair a roddodd Duw yn fy ngenau."

39Felly aeth Balaam gyda Balac, a chyrraedd Ciriath-husoth.

40Yna aberthodd Balac wartheg a defaid, a'u hanfon at Balaam a'r tywysogion oedd gydag ef.

41Trannoeth aeth Balac i gyrchu Balaam i fyny i Bamoth-baal, ac oddi yno fe ganfu fod y bobl yn cyrraedd cyn belled ag y gwelai.