Numeri 23:1-30 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd Balaam wrth Balac, "Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd."

2Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn, ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.

3Yna dywedodd Balaam wrth Balac, "Aros di wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw oddi yma; hwyrach y daw'r ARGLWYDD i gyfarfod � mi, ac fe ddywedaf wrthyt beth bynnag a ddatguddia imi." Felly aeth ymaith i fryn uchel.

4Daeth Duw i gyfarfod � Balaam, a dywedodd Balaam wrtho, "Yr wyf wedi paratoi'r saith allor ac offrymu bustach a hwrdd ar bob un."

5Rhoddodd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam, a dweud, "Dos yn �l at Balac, a llefara hyn wrtho."

6Pan ddychwelodd yntau, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a holl dywysogion Moab gydag ef.

7Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud, "Daeth Balac � mi o Syria, brenin Moab o fynyddoedd y dwyrain. 'Tyrd,' meddai, 'rho felltith ar Jacob imi; tyrd, cyhoedda wae ar Israel.'

8Sut y gallaf felltithio neb heb i Dduw ei felltithio, neu gyhoeddi gwae ar neb heb i'r ARGLWYDD ei gyhoeddi?

9Fe'u gwelaf o ben y creigiau, ac edrychaf arnynt o'r bryniau � pobl yn byw mewn unigedd, heb ystyried eu bod ymysg y cenhedloedd.

10Pwy a all gyfrif Jacob mwy na llwch neu rifo chwarter Israel? Boed i minnau farw fel y bydd marw'r cyfiawn, a boed fy niwedd i fel eu diwedd hwy."

11Dywedodd Balac wrth Balaam, "Beth a wnaethost imi? Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond y cyfan a wnaethost oedd eu bendithio."

12Atebodd yntau, "Onid oes raid imi lefaru'r hyn y mae'r ARGLWYDD yn ei osod yn fy ngenau?"

13Dywedodd Balac wrtho, "Tyrd gyda mi i le arall er mwyn iti eu gweld oddi yno; ni weli di mo'r cyfan, dim ond un cwr ohonynt, ond oddi yno gelli eu melltithio imi."

14Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un.

15Yna dywedodd Balaam wrth Balac, "Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod �'r ARGLWYDD."

16Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod � Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, "Dos yn �l at Balac, a llefara hyn wrtho."

17Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, "Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?"

18Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud: "Cod, Balac, a chlyw: gwrando arnaf, fab Sippor;

19nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd, neu fod meidrol yn edifarhau. Oni wna yr hyn a addawodd, a chyflawni'r hyn a ddywedodd?

20Derbyniais orchymyn i fendithio, a phan fo ef yn bendithio, ni allaf ei atal.

21Ni welodd ddrygioni yn Jacob, ac ni chanfu drosedd yn Israel. Y mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda hwy, a bloedd y brenin yn eu plith.

22Daeth Duw � hwy allan o'r Aifft, ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.

23Nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel; yn awr fe ddywedir am Jacob ac Israel, 'Gwaith Duw yw hyn!'

24Dyma bobl sy'n codi fel llewes, ac yn ymsythu fel llew; nid yw'n gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth ac yfed o waed yr hyn a larpiodd."

25Dywedodd Balac wrth Balaam, "Paid �'u melltithio na'u bendithio mwyach."

26Ond atebodd Balaam ef, "Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?"

27Dywedodd Balac wrth Balaam, "Tyrd, fe af � thi i le arall; efallai y bydd Duw yn fodlon iti eu melltithio imi oddi yno."

28Felly cymerodd Balac ef i ben Peor, sy'n edrych i lawr dros y diffeithwch,

29a dywedodd Balaam wrtho, "Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd."

30Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn iddo, ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.