1Pan welodd Balaam fod yr ARGLWYDD yn dymuno bendithio Israel, nid aeth i arfer dewiniaeth, fel cynt; yn hytrach, trodd ei wyneb tua'r diffeithwch.
2Cododd ei olwg a gweld yr Israeliaid yn gwersyllu yn �l eu llwythau. Yna daeth ysbryd Duw arno,
3a llefarodd ei oracl a dweud: "Gair Balaam fab Beor, gair y gu373?r yr agorir ei lygaid
4ac sy'n clywed geiriau Duw, yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog, ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:
5Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob, a'th wersylloedd, O Israel!
6Y maent yn ymestyn fel palmwydd, fel gerddi ar lan afon, fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD, fel cedrwydd wrth ymyl dyfroedd.
7Tywelltir du373?r o'i ystenau, a bydd digon o ddu373?r i'w had. Bydd ei frenin yn uwch nag Agag, a dyrchefir ei frenhiniaeth.
8Daeth Duw ag ef allan o'r Aifft, ac yr oedd ei nerth fel nerth ych gwyllt; bydd yn traflyncu'r cenhedloedd sy'n elynion iddo, gan ddryllio eu hesgyrn yn ddarnau, a'u gwanu �'i saethau.
9Pan gryma, fe orwedd fel llew, neu lewes; pwy a'i deffry? Bydded bendith ar bawb a'th fendithia, a melltith ar bawb a'th felltithia."
10Yna digiodd Balac wrth Balaam; curodd ei ddwylo, a dywedodd wrtho, "Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond yr wyt ti wedi eu bendithio'r teirgwaith hyn.
11Felly ffo yn awr i'th le dy hun; addewais dy anrhydeddu, ond fe gadwodd yr ARGLWYDD yr anrhydedd oddi wrthyt."
12Dywedodd Balaam wrth Balac, "Oni ddywedais wrth y negeswyr a anfonaist ataf,
13'Pe rhoddai Balac imi lond ei du375? o arian ac aur, ni allwn fynd yn groes i air yr ARGLWYDD a gwneud na da na drwg o'm hewyllys fy hun; rhaid imi lefaru'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD'?
14Yn awr, fe af at fy mhobl fy hun; tyrd, ac fe ddywedaf wrthyt beth a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyfodol."
15Yna llefarodd ei oracl a dweud: "Gair Balaam fab Beor, gair y gu373?r yr agorir ei lygaid
16ac sy'n clywed geiriau Duw, yn gwybod meddwl y Goruchaf, yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog, ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:
17Fe'i gwelaf ef, ond nid yn awr; edrychaf arno, ond nid yw'n agos. Daw seren allan o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel; fe ddryllia dalcen Moab, a difa holl feibion Seth.
18Bydd Edom yn cael ei meddiannu, bydd Seir yn feddiant i'w gelynion, ond bydd Israel yn gweithredu'n rymus.
19Daw llywodraethwr allan o Jacob a dinistrio'r rhai a adawyd yn y dinasoedd."
20Yna edrychodd ar Amalec, a llefarodd ei oracl a dweud: "Amalec oedd y blaenaf ymhlith y cenhedloedd, ond caiff yntau, yn y diwedd, ei ddinistrio."
21Yna edrychodd ar y Cenead, a llefarodd ei oracl a dweud: "Y mae dy drigfan yn gadarn, a'th nyth yn ddiogel mewn craig;
22eto bydd Cain yn cael ei anrheithio. Am ba hyd y bydd Assur yn dy gaethiwo?"
23Llefarodd ei oracl a dweud: "Och! Pwy fydd byw pan wna Duw hyn?
24Daw llongau o gyffiniau Chittim, gan orthrymu Assur ac Eber; c�nt hwythau hefyd eu dinistrio."
25Yna cododd Balaam a dychwelodd adref, ac aeth Balac hefyd ymaith.