1Ar �l y pla dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad,
2Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn �l eu tylwythau, gan restru pawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd, ac yn abl i fynd i ryfel."
3Felly dywedodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrth y bobl yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen,
4am restru'r rhai oedd yn ugain oed a throsodd, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma'r Israeliaid a ddaeth allan o wlad yr Aifft:
5Reuben, cyntafanedig Israel; meibion Reuben: o Hanoch, teulu'r Hanochiaid; o Palu, teulu'r Paluiaid;
6o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Carmi, teulu'r Carmiaid.
7Dyma gyfanswm teuluoedd y Reubeniaid: pedwar deg tair o filoedd, saith gant a thri deg.
8Mab Palu: Eliab.
9Meibion Eliab: Nemuel, Dathan ac Abiram. Dyma'r Dathan a'r Abiram a anogodd y cynulliad i ymuno � chwmni Cora i gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, ac yn erbyn yr ARGLWYDD;
10agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a Cora, a bu farw'r cwmni pan losgwyd dau gant a hanner ohonynt mewn t�n, fel rhybudd.
11Er hyn, ni fu farw meibion Cora.
12Meibion Simeon yn �l eu teuluoedd: o Nemuel, teulu'r Nemueliaid; o Jamin, teulu'r Jaminiaid; o Jachin, teulu'r Jachiniaid;
13o Sera, teulu'r Serahiaid; o Saul, teulu'r Sauliaid.
14Dyma deuluoedd y Simeoniaid, dau ddeg dwy o filoedd a dau gant.
15Meibion Gad yn �l eu teuluoedd: o Seffon, teulu'r Seffoniaid; o Haggi, teulu'r Haggiaid; o Suni, teulu'r Suniaid;
16o Osni, teulu'r Osniaid; o Eri, teulu'r Eriaid;
17o Arod, teulu'r Arodiaid; o Areli, teulu'r Areliaid.
18Dyma deuluoedd meibion Gad, cyfanswm o ddeugain mil a phum cant.
19Meibion Jwda: Er ac Onan; bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan.
20Meibion Jwda yn �l eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu'r Selaniaid; o Peres, teulu'r Peresiaid; o Sera, teulu'r Serahiaid.
21Meibion Peres oedd: o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Hamul, teulu'r Hamuliaid.
22Dyma deuluoedd Jwda, cyfanswm o saith deg chwech o filoedd a phum cant.
23Meibion Issachar yn �l eu teuluoedd: o Tola, teulu'r Tolaiaid; o Pua, teulu'r Puhiaid;
24o Jasub, teulu'r Jasubiaid; o Simron, teulu'r Simroniaid.
25Dyma deuluoedd Issachar, cyfanswm o chwe deg pedair o filoedd a thri chant.
26Meibion Sabulon yn �l eu teuluoedd: o Sered, teulu'r Sardiaid; o Elon, teulu'r Eloniaid; o Jahleel, teulu'r Jahleeliaid.
27Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, cyfanswm o drigain mil a phum cant.
28Meibion Joseff, sef Manasse ac Effraim, yn �l eu teuluoedd:
29Meibion Manasse: o Machir, teulu'r Machiriaid; yr oedd Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu'r Gileadiaid.
30Dyma feibion Gilead: o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Helec, teulu'r Heleciaid;
31o Asriel, teulu'r Asrieliaid; o Sechem, teulu'r Sechemiaid;
32o Semida, teulu'r Semidiaid; o Heffer, teulu'r Hefferiaid.
33Nid oedd gan Seloffehad fab Heffer feibion, dim ond merched; enwau merched Seloffehad oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.
34Dyma deuluoedd Manasse, cyfanswm o bum deg dwy o filoedd a saith gant.
35Dyma feibion Effraim yn �l eu teuluoedd: o Suthela, teulu'r Sutheliaid; o Becher, teulu'r Becheriaid; o Tahan, teulu'r Tahaniaid.
36Dyma feibion Suthela: o Eran, teulu'r Eraniaid.
37Dyma deuluoedd meibion Effraim, cyfanswm o dri deg dwy o filoedd a phum cant. Dyma feibion Joseff yn �l eu teuluoedd.
38Meibion Benjamin yn �l eu teuluoedd: o Bela, teulu'r Belaiaid; o Asbel, teulu'r Asbeliaid; o Ahiram, teulu'r Ahiramiaid;
39o Suffam, teulu'r Suffamiaid; o Huffam, teulu'r Huffamiaid.
40Meibion Bela oedd Ard a Naaman; o Ard, teulu'r Ardiaid; o Naaman, teulu'r Naamaniaid.
41Dyma feibion Benjamin yn �l eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a chwe chant.
42Dyma feibion Dan yn �l eu teuluoedd: o Suham, teulu'r Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan yn �l eu teuluoedd.
43Cyfanswm holl deuluoedd y Suhamiaid oedd chwe deg pedair o filoedd a phedwar cant.
44Meibion Aser yn �l eu teuluoedd: o Jimna, teulu'r Jimniaid; o Jesui, teulu'r Jesuiaid; o Bereia, teulu'r Bereiaid.
45O feibion Bereia: o Heber, teulu'r Heberiaid; o Malciel, teulu'r Malcieliaid.
46Enw merch Aser oedd Sara.
47Dyma deuluoedd meibion Aser, cyfanswm o bum deg tair o filoedd a phedwar cant.
48Meibion Nafftali yn �l eu teuluoedd: o Jahseel, teulu'r Jahseeliaid; o Guni, teulu'r Guniaid;
49o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Silem, teulu'r Silemiaid.
50Dyma dylwyth Nafftali yn �l eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a phedwar cant.
51Dyma gyfanswm yr Israeliaid: chwe chant ac un o filoedd saith gant a thri deg.
52Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
53I'r rhain, yn �l nifer yr enwau, y rhennir y tir yn etifeddiaeth.
54I'r llwythau mawr rho etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain rho etifeddiaeth fechan; rhanna'r etifeddiaeth i bob llwyth yn �l y nifer sydd ynddo.
55Yr wyt i rannu'r tir trwy goelbren, ac y maent i etifeddu yn �l enwau llwythau eu hynafiaid.
56Rhennir yr etifeddiaeth trwy'r coelbren rhwng y rhai mawr a'r rhai bychain."
57Dyma'r Lefiaid a restrwyd yn �l eu teuluoedd: o Gerson, teulu'r Gersoniaid; o Cohath, teulu'r Cohathiaid; o Merari, teulu'r Merariaid.
58Dyma deuluoedd Lefi: y Libniaid, yr Hebroniaid, y Mahliaid, y Musiaid a'r Corahiaid. Yr oedd Cohath yn dad i Amram.
59Enw gwraig Amram oedd Jochebed ferch Lefi, a anwyd iddo yn yr Aifft; ac i Amram fe anwyd ohoni hi Aaron, Moses a'u chwaer Miriam.
60I Aaron fe anwyd Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar;
61ond bu farw Nadab ac Abihu wrth iddynt offrymu t�n halogedig gerbron yr ARGLWYDD.
62Rhestrwyd dau ddeg tair o filoedd ohonynt, sef pob gwryw mis oed a throsodd; ni restrwyd hwy ymhlith pobl Israel, oherwydd nid oedd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.
63Dyma'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Eleasar yr offeiriad yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen.
64Nid oedd ymhlith y rhain yr un o'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Aaron yr offeiriad yn anialwch Sinai,
65oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddent hwy farw yn yr anialwch. Ni adawyd neb ohonynt, heblaw Caleb fab Jeffunne, a Josua fab Nun.