Numeri 28:1-31 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2Gorchymyn i bobl Israel a dywed wrthynt, 'Gofalwch offrymu i mi ar yr adeg benodedig fy rhodd o fwyd ar gyfer fy offrymau trwy d�n a'm harogl peraidd.'

3Dywed wrthynt, 'Dyma'r offrwm yr ydych i'w offrymu trwy d�n i'r ARGLWYDD: dau oen blwydd di-nam yn boethoffrwm rheolaidd bob dydd,

4un oen i'w offrymu yn y bore, a'r llall yn yr hwyr;

5ac yn fwydoffrwm: degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu � chwarter hin o olew pur.

6Bydd hwn yn boethoffrwm rheolaidd a ordeiniwyd ar Fynydd Sinai i fod yn arogl peraidd, yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD.

7Yr wyt i dywallt diod gadarn yn ddiodoffrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr, chwarter hin ar gyfer pob oen.

8Offryma'r oen arall yn yr hwyr yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, fel bwydoffrwm y bore a'i ddiodoffrwm.

9'Ar y dydd Saboth: dau oen blwydd di-nam a dwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.

10Hwn fydd poethoffrwm y Saboth, sy'n ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.

11'Ar y cyntaf o bob mis yr ydych i offrymu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD ddau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd di-nam;

12hefyd, tair degfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer pob bustach; dwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer yr hwrdd;

13a degfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer pob oen; bydd y poethoffrwm yn arogl peraidd, yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD.

14Bydd hanner hin o win yn ddiodoffrwm ar gyfer bustach, traean hin ar gyfer hwrdd, a chwarter hin ar gyfer oen. Dyna fydd y poethoffrwm bob mis trwy gydol y flwyddyn.

15Hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod i'r ARGLWYDD; bydd hwn yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.

16'Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD.

17Ar y pymthegfed dydd o'r mis hwn bydd gu373?yl, ac am saith diwrnod bwyteir bara croyw.

18Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd; peidiwch � gwneud dim gwaith arferol,

19ond cyflwynwch offrwm trwy d�n yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam;

20hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew; offrymwch dair degfed ran ar gyfer bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer hwrdd,

21a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;

22hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.

23Offrymwch y rhain yn ychwanegol at boethoffrwm y bore, sy'n boethoffrwm rheolaidd.

24Fel hyn yr ydych i offrymu'r bwyd sy'n offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, bob dydd am saith diwrnod; offrymer ef yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.

25Ar y seithfed dydd yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; peidiwch � gwneud dim gwaith arferol.

26'Ar ddydd blaenffrwyth y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod � bwydoffrwm newydd i'r ARGLWYDD yn ystod gu373?yl yr Wythnosau, yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio � gwneud dim gwaith arferol.

27Offrymwch boethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd;

28hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer pob bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,

29a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;

30hefyd un bwch gafr, i wneud cymod drosoch.

31Yr ydych i offrymu'r rhain a'u diodoffrwm yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm. Gofalwch eu bod yn ddi-nam.