1Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio � gwneud dim gwaith arferol. Bydd yn ddiwrnod i chwi ganu'r utgyrn
2ac offrymu poethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef un bustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd di-nam;
3hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,
4a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
5hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.
6Y mae hyn yn ychwanegol at y poethoffrwm misol a'i fwydoffrwm, y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm, a'u diodoffrwm, yn �l y ddeddf ar eu cyfer; byddant yn arogl peraidd, yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD.
7'Ar y degfed dydd o'r seithfed mis hwn, yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; yr ydych i ymddarostwng, a pheidio � gwneud dim gwaith.
8Offrymwch boethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef un bustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam;
9hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,
10a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
11hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at yr aberth dros bechod er cymod, y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm, a'u diodoffrymau.
12'Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio � gwneud dim gwaith arferol, ond cadwch u373?yl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod.
13Offrymwch boethoffrwm yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef tri ar ddeg o fustych ifainc, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o u373?yn blwydd; byddant yn ddi-nam;
14hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer pob un o'r tri ar ddeg o fustych, dwy ddegfed ran ar gyfer pob un o'r ddau hwrdd,
15a degfed ran ar gyfer pob un o'r pedwar ar ddeg o u373?yn;
16hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm a'i ddiodoffrwm.
17'Ar yr ail ddydd: deuddeg bustach ifanc, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o u373?yn blwydd di-nam,
18gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r u373?yn yn �l eu nifer ac yn unol �'r ddeddf ar eu cyfer;
19hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'u diodoffrymau.
20'Ar y trydydd dydd: un ar ddeg o fustych, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o u373?yn blwydd di-nam,
21gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r u373?yn, yn �l eu nifer ac yn unol �'r ddeddf ar eu cyfer;
22hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
23'Ar y pedwerydd dydd: deg bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o u373?yn blwydd di-nam,
24gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r u373?yn, yn �l eu nifer ac yn unol �'r ddeddf ar eu cyfer;
25hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
26'Ar y pumed dydd: naw bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o u373?yn blwydd di-nam,
27gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r u373?yn, yn �l eu nifer ac yn unol �'r ddeddf ar eu cyfer;
28hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
29'Ar y chweched dydd: wyth bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o u373?yn blwydd di-nam,
30gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r u373?yn, yn �l eu nifer ac yn unol �'r ddeddf ar eu cyfer;
31hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
32'Ar y seithfed dydd: saith bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o u373?yn blwydd di-nam,
33gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r u373?yn, yn �l eu nifer ac yn unol �'r ddeddf ar eu cyfer;
34hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
35'Ar yr wythfed dydd, yr ydych i gynnal cynulliad, a pheidio � gwneud dim gwaith arferol.
36Offrymwch boethoffrwm yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef bustach, hwrdd, a saith oen blwydd di-nam,
37gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustach, yr hwrdd, a'r u373?yn, yn �l eu nifer ac yn unol �'r ddeddf ar eu cyfer;
38hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
39'Dyma'r hyn yr ydych i'w offrymu i'r ARGLWYDD ar eich gwyliau penodedig, yn ychwanegol at eich offrymau adduned a'ch offrymau gwirfodd, eich poethoffrymau, eich bwydoffrymau, eich diodoffrymau, a'ch heddoffrymau.'"
40Dywedodd Moses wrth bobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo.