Numeri 3:1-51 BCN1988 - Bible AI

1Dyma ddisgynyddion Aaron a Moses yr adeg y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar Fynydd Sinai.

2Enwau meibion Aaron oedd: Nadab y cyntafanedig, Abihu, Eleasar ac Ithamar.

3Dyma oedd enwau meibion Aaron a eneiniwyd ac a gysegrwyd i wasanaethu fel offeiriaid.

4Bu farw Nadab ac Abihu wedi iddynt offrymu ar d�n halogedig o flaen yr ARGLWYDD yn anialwch Sinai. Nid oedd gan y naill na'r llall ohonynt feibion; felly Eleasar ac Ithamar a fu'n gwasanaethu fel offeiriaid yng ngu373?ydd eu tad Aaron.

5Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

6Tyrd � llwyth Lefi yma, a'u penodi i wasanaethu Aaron yr offeiriad.

7Byddant yn gweini arno ef a'r holl gynulliad o flaen pabell y cyfarfod, ac yn gwasanaethu yn y tabernacl.

8Hwy fydd yn gofalu am ddodrefn pabell y cyfarfod ac yn gweini ar bobl Israel trwy wasanaethu yn y tabernacl.

9Yr wyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion; hwy yn unig o blith pobl Israel a gyflwynir yn arbennig iddo ef.

10Yr wyt i urddo Aaron a'i feibion i wasanaethu fel offeiriaid; ond rhodder i farwolaeth bwy bynnag arall a ddaw'n agos."

11Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

12Edrych, yr wyf wedi neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel yn lle pob cyntafanedig a ddaw allan o'r groth; bydd y Lefiaid yn eiddo i mi,

13oherwydd eiddof fi yw pob cyntafanedig. Ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntafanedig yn Israel, yn ddyn ac anifail; eiddof fi ydynt. Myfi yw'r ARGLWYDD."

14Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai,

15Yr wyt i gyfrif meibion Lefi yn �l eu teuluoedd a'u tylwythau; gwna gyfrif o bob gwryw mis oed a throsodd."

16Felly cyfrifodd Moses hwy yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

17Enwau meibion Lefi oedd: Gerson, Cohath a Merari.

18Dyma enwau meibion Gerson yn �l eu tylwythau: Libni a Simei.

19Meibion Cohath yn �l eu tylwythau: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel.

20Meibion Merari yn �l eu tylwythau: Mahli a Musi. Dyma dylwythau'r Lefiaid, yn �l eu teuluoedd.

21O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid a thylwyth y Simiaid; dyma dylwythau'r Gersoniaid.

22Ar �l rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd saith mil a phum cant.

23Yr oedd teuluoedd y Gersoniaid i wersyllu i'r gorllewin, y tu �l i'r tabernacl.

24Eliasaff fab Lael oedd penteulu'r Gersoniaid.

25Ym mhabell y cyfarfod yr oedd meibion Gerson yn gofalu am y tabernacl a'i babell, y llenni, y gorchudd dros ddrws pabell y cyfarfod,

26llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl, yr allor a'r rhaffau, a phopeth ynglu375?n �'u gwasanaeth.

27O Cohath y daeth tylwythau'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid; dyma dylwythau'r Cohathiaid.

28Ar �l rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd wyth mil a chwe chant, a hwy oedd yn gofalu am wasanaeth y cysegr.

29Yr oedd tylwythau'r Cohathiaid i wersyllu i'r de o'r tabernacl.

30Elisaffan fab Ussiel oedd penteulu'r Cohathiaid.

31Yr oeddent hwy i ofalu am yr arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, y llestri a ddefnyddid yn y cysegr, y gorchudd, a phopeth ynglu375?n �'u gwasanaeth.

32Prif arweinydd y Lefiaid oedd Eleasar fab Aaron yr offeiriad, ac ef oedd yn goruchwylio'r rhai oedd yn gofalu am y cysegr.

33O Merari y daeth tylwythau'r Mahliaid a'r Musiaid; dyma dylwythau Merari.

34Ar �l cyfrif pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd chwe mil a dau gant.

35Suriel fab Abihael oedd penteulu Merari; yr oeddent i wersyllu i'r gogledd o'r tabernacl.

36Y Merariaid oedd i ofalu am fframiau'r tabernacl, y barrau, y colofnau, y traed, yr offer i gyd, a phopeth ynglu375?n �'u gwasanaeth;

37hefyd am golofnau'r cyntedd o amgylch, ynghyd �'r traed, yr hoelion a'r rhaffau.

38Yr oedd Moses ac Aaron a'i feibion i wersyllu i'r dwyrain o'r tabernacl, tua chodiad haul, sef o flaen pabell y cyfarfod. Hwy oedd i ofalu am wasanaeth y cysegr a gweini ar bobl Israel; ond yr oedd pwy bynnag arall a dd�i'n agos i'w roi i farwolaeth.

39Cyfanswm y Lefiaid a gyfrifodd Moses ac Aaron yn �l eu tylwythau ar orchymyn yr ARGLWYDD, gan gynnwys pob gwryw mis oed a throsodd, oedd dwy fil ar hugain.

40Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Yr wyt i gyfrif pob gwryw cyntafanedig o blith pobl Israel sy'n fis oed a throsodd, a'u rhestru yn �l eu henwau.

41Yna, neilltua'r Lefiaid i mi yn lle pob cyntafanedig o blith pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle'r cyntafanedig o'u hanifeiliaid hwy; myfi yw'r ARGLWYDD."

42Felly cyfrifodd Moses bob cyntafanedig o blith pobl Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

43Ar �l cyfrif pob gwryw cyntafanedig mis oed a throsodd, a'u rhestru wrth eu henwau, yr oedd eu cyfanswm yn ddwy fil ar hugain dau gant saith deg a thri.

44Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

45Neilltua'r Lefiaid yn lle pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwy. Bydd y Lefiaid yn eiddo i mi; myfi yw'r ARGLWYDD.

46Yn iawn am y plant cyntafanedig sy'n eiddo i bobl Israel, sef y dau gant saith deg a thri sy'n rhagor nag eiddo'r Lefiaid,

47cymer am bob un ohonynt bum sicl, yn �l sicl y cysegr sy'n pwyso ugain gera;

48yna rho'r arian sy'n iawn drostynt i Aaron a'i feibion."

49Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai oedd yn ychwanegol at y nifer a brynwyd trwy'r Lefiaid,

50ac am blant cyntafanedig Israel cafodd fil tri chant chwe deg a phump o siclau, yn �l sicl y cysegr.

51Yna rhoddodd Moses i Aaron a'i feibion yr arian a gymerodd yn iawn, yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>