Numeri 33:1-56 BCN1988 - Bible AI

1Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron.

2Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai.

3Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar �l y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngu373?ydd yr holl Eifftiaid,

4tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd.

5Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth.

6Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch.

7Aethant o Etham a throi'n �l i Pihahiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-seffon, a gwersyllu o flaen Migdol.

8Aethant o Pihahiroth a mynd trwy ganol y m�r i'r anialwch, a buont yn cerdded am dridiau yn anialwch Etham cyn gwersyllu yn Mara.

9Aethant o Mara a chyrraedd Elim, lle yr oedd deuddeg o ffynhonnau du373?r a saith deg o balmwydd, a buont yn gwersyllu yno.

10Aethant o Elim a gwersyllu wrth y M�r Coch.

11Aethant o'r M�r Coch a gwersyllu yn anialwch Sin.

12Aethant o anialwch Sin a gwersyllu yn Doffca.

13Aethant o Doffca a gwersyllu yn Alus.

14Aethant o Alus a gwersyllu yn Reffidim, lle nad oedd du373?r i'r bobl i'w yfed.

15Aethant o Reffidim a gwersyllu yn anialwch Sinai.

16Aethant o anialwch Sinai a gwersyllu yn Cibroth-hattaafa.

17Aethant o Cibroth-hattaafa a gwersyllu yn Haseroth.

18Aethant o Haseroth a gwersyllu yn Rithma.

19Aethant o Rithma a gwersyllu yn Rimmon-pares.

20Aethant o Rimmon-pares a gwersyllu yn Libna.

21Aethant o Libna a gwersyllu ym Mynydd Rissa.

22Aethant o Rissa a gwersyllu yn Cehelatha.

23Aethant o Cehelatha a gwersyllu ym Mynydd Saffer.

24Aethant o Fynydd Saffer a gwersyllu yn Harada.

25Aethant o Harada a gwersyllu yn Maceloth.

26Aethant o Maceloth a gwersyllu yn Tahath.

27Aethant o Tahath a gwersyllu yn Tara.

28Aethant o Tara a gwersyllu yn Mithca.

29Aethant o Mithca a gwersyllu yn Hasmona.

30Aethant o Hasmona a gwersyllu yn Moseroth.

31Aethant o Moseroth a gwersyllu yn Bene-jaacan.

32Aethant o Bene-jaacan a gwersyllu yn Hor-haggidgad.

33Aethant o Hor-haggidgad a gwersyllu yn Jotbatha.

34Aethant o Jotbatha a gwersyllu yn Abrona.

35Aethant o Abrona a gwersyllu yn Esion-geber.

36Aethant o Esion-geber a gwersyllu yn anialwch Sin, sef Cades.

37Aethant o Cades a gwersyllu ym Mynydd Hor, sydd ar gwr gwlad Edom.

38Aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor, ar orchymyn yr ARGLWYDD, a bu farw yno ar y dydd cyntaf o'r pumed mis yn y ddeugeinfed flwyddyn ar �l i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft.

39Yr oedd Aaron yn gant dau ddeg a thair oed pan fu farw ar Fynydd Hor.

40Clywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, fod yr Israeliaid yn dod.

41Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona.

42Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon.

43Aethant o Punon a gwersyllu yn Oboth.

44Aethant o Oboth a gwersyllu yn Ije-abarim ar derfyn Moab.

45Aethant o Ijim a gwersyllu yn Dibon-gad.

46Aethant o Dibon-gad a gwersyllu yn Almon-diblathaim.

47Aethant o Almon-diblathaim a gwersyllu ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.

48Aethant o fynyddoedd Abarim a gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen;

49yr oedd eu gwersyll ar lan yr Iorddonen yn ymestyn o Beth-jesimoth hyd Abel-sittim yng ngwastadedd Moab.

50Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen, a dweud,

51Dywed wrth bobl Israel, 'Wedi i chwi groesi'r Iorddonen i wlad Canaan,

52yr ydych i yrru allan o'ch blaen holl drigolion y wlad, a dinistrio eu holl gerrig nadd a'u delwau tawdd, a difa eu holl uchelfeydd;

53yna yr ydych i feddiannu'r wlad a thrigo yno, oherwydd yr wyf wedi rhoi'r wlad i chwi i'w meddiannu.

54Yr ydych i rannu'r wlad yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd trwy goelbren: i'r llwythau mawr rhowch etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain etifeddiaeth fechan; lle bynnag y bydd y coelbren yn disgyn i unrhyw un, yno y bydd ei feddiant. Felly yr ydych i rannu'r etifeddiaeth yn �l llwythau eich hynafiaid.

55Os na fyddwch yn gyrru allan drigolion y wlad o'ch blaen, yna bydd y rhai a adawyd gennych yn bigau yn eich llygaid ac yn ddrain yn eich ystlys, a byddant yn eich poenydio yn y wlad y byddwch yn byw ynddi;

56ac fe wnaf i chwi yr hyn a fwriedais ei wneud iddynt hwy.'"