Numeri 34:1-29 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2Gorchymyn bobl Israel, a dywed wrthynt, 'Pan fyddwch yn mynd i mewn i wlad Canaan, bydd terfynau'r wlad a gewch yn etifeddiaeth fel a ganlyn:

3i'r de bydd yn ymestyn o anialwch Sin a heibio i Edom, ac yn y dwyrain bydd eich terfyn deheuol yn ymestyn o ben draw M�r yr Heli,

4ac yn troi o lethrau Acrabbim a throsodd i Sin, ac yna i'r de o Cades-barnea; oddi yno � ymlaen i Hasar-adar a throsodd i Asmon;

5yna fe dry'r terfyn o Asmon at nant yr Aifft, a gorffen wrth y m�r.

6'I'r gorllewin, y terfyn fydd y M�r Mawr a'r arfordir; hwn fydd eich terfyn gorllewinol.

7'Dyma fydd eich terfyn i'r gogledd: tynnwch linell o'r M�r Mawr i Fynydd Hor,

8ac o Fynydd Hor i Lebo-hamath; bydd y terfyn yn cyrraedd hyd Sedad,

9yna'n ymestyn i Siffron, a gorffen yn Hasar-enan; dyma fydd eich terfyn gogleddol.

10'Ar ochr y dwyrain, tynnwch linell o Hasar-enan i Seffan;

11fe �'r terfyn i lawr o Seffan i Ribla, i'r dwyrain o Ain, ac yna i lawr ymhellach ar hyd y llechweddau i'r dwyrain o F�r Cinnereth;

12yna fe �'r terfyn i lawr ar hyd yr Iorddonen, a gorffen wrth F�r yr Heli. Hon fydd eich gwlad, a'r rhain fydd ei therfynau oddi amgylch.'"

13Rhoddodd Moses orchymyn i bobl Israel, a dweud, "Dyma'r wlad yr ydych i'w rhannu'n etifeddiaeth trwy goelbren, a'i rhoi i'r naw llwyth a hanner, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD;

14y mae llwythau teuluoedd meibion Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn eu hetifeddiaeth;

15derbyniodd y ddau lwyth a hanner eu hetifeddiaeth hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho, tua chodiad haul."

16Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

17Dyma enwau'r dynion sydd i rannu'r wlad yn etifeddiaeth i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua fab Nun.

18Cymerwch hefyd un pennaeth o bob llwyth i rannu'r wlad yn etifeddiaeth.

19Dyma eu henwau: o lwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne;

20o lwyth meibion Simeon, Semuel fab Ammihud;

21o lwyth Benjamin, Elidad fab Cislon;

22o lwyth meibion Dan, y pennaeth fydd Bucci fab Jogli;

23o feibion Joseff: o lwyth meibion Manasse, y pennaeth fydd Haniel fab Effad;

24o lwyth meibion Effraim, y pennaeth fydd Cemuel fab Sifftan;

25o lwyth meibion Sabulon, y pennaeth fydd Elisaffan fab Parnach;

26o lwyth meibion Issachar, y pennaeth fydd Paltiel fab Assan;

27o lwyth meibion Aser, y pennaeth fydd Ahihud fab Salomi;

28o lwyth meibion Nafftali, y pennaeth fydd Pedahel fab Ammihud.

29Dyma'r dynion y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt rannu'r etifeddiaeth i bobl Israel yng ngwlad Canaan."