Numeri 35:1-34 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen,

2Gorchymyn i bobl Israel roi o'r etifeddiaeth a g�nt ddinasoedd i'r Lefiaid i fyw ynddynt, a phorfeydd o amgylch y dinasoedd.

3Caiff y Lefiaid fyw yn y dinasoedd, a bydd y porfeydd ar gyfer eu gwartheg, eu praidd, a'u holl anifeiliaid.

4Bydd porfeydd y dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid yn ymestyn o fur y ddinas tuag allan am fil o gufyddau oddi amgylch.

5Yr ydych i fesur, o'r tu allan i'r ddinas, ddwy fil o gufyddau ar yr ochr ddwyreiniol, dwy fil ar yr ochr ddeheuol, dwy fil ar yr ochr orllewinol, a dwy fil ar yr ochr ogleddol, a'r ddinas yn y canol; dyma borfeydd y dinasoedd fydd yn eiddo iddynt.

6O'r dinasoedd a rowch i'r Lefiaid, bydd chwech yn ddinasoedd noddfa, lle caiff y lleiddiaid ffoi; yn ychwanegol at y rhain, rhowch iddynt bedwar deg a dwy o ddinasoedd.

7Felly byddwch yn rhoi i'r Lefiaid bedwar deg ac wyth o ddinasoedd i gyd, gyda'u porfeydd.

8o'r dinasoedd sy'n feddiant i bobl Israel cymerwch lawer oddi wrth y llwythau mawr, ond llai oddi wrth y llwythau bychain; y mae pob llwyth i roi dinasoedd i'r Lefiaid yn �l maint yr etifeddiaeth a gafodd."

9Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

10Dywed wrth bobl Israel, 'Pan fyddwch wedi mynd dros yr Iorddonen i mewn i wlad Canaan,

11yr ydych i neilltuo i chwi eich hunain ddinasoedd i fod yn ddinasoedd noddfa, er mwyn i'r lleiddiad, a laddodd rywun yn anfwriadol, gael ffoi iddynt.

12Bydd y dinasoedd yn noddfa rhag y dialydd, fel na chaiff y lleiddiad ei ladd cyn iddo sefyll ei brawf o flaen y cynulliad.

13o'r chwe dinas a nodwch yn ddinasoedd noddfa,

14bydd tair yr ochr yma i'r Iorddonen, a thair yng ngwlad Canaan.

15Bydd y chwe dinas hyn yn noddfa i bobl Israel, ac i'r dieithryn a'r ymwelydd yn eu plith, a chaiff pwy bynnag a laddodd rywun yn anfwriadol ffoi iddynt.

16'Os bydd rhywun yn taro rhywun arall ag offeryn haearn, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

17Os bydd yn ei daro � charreg yn ei law, a'r garreg yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

18Os bydd yn ei daro ag arf pren yn ei law, a'r arf yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

19Caiff y sawl sy'n dial gwaed roi'r llofrudd i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.

20Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall mewn casineb, neu'n ymosod arno'n fwriadol, ac yntau'n marw;

21neu ynteu'n taro rhywun �'i law mewn atgasedd, ac yntau'n marw, yna rhodder y sawl a'i trawodd i farwolaeth; y mae'n llofrudd, a chaiff y sawl sy'n dial gwaed ei roi i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.

22'Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall yn sydyn, a heb atgasedd, neu os bydd yn taflu rhywbeth ato'n anfwriadol,

23neu ynteu heb edrych yn ei daro � charreg a fyddai'n debyg o'i ladd, ac yntau'n marw, yna, gan na fu gelyniaeth rhyngddynt a chan na fwriadodd ei niweidio,

24y mae'r cynulliad i farnu rhwng yr ymosodwr a'r dialydd gwaed, yn �l y deddfau hyn;

25a bydd y cynulliad yn arbed y lleiddiad rhag y dialydd gwaed ac yn ei roi'n �l yn y ddinas noddfa y ffodd iddi, a chaiff fyw yno nes marw'r archoffeiriad a eneiniwyd �'r olew cysegredig.

26Ond os �'r lleiddiad rywbryd y tu allan i derfynau'r ddinas noddfa y ffodd iddi,

27a'r dialydd gwaed yn ei ganfod a'i ladd, ni fydd yn euog o'i waed.

28Rhaid i'r lleiddiad aros tu mewn i'w ddinas noddfa nes marw'r archoffeiriad; ond ar �l marw'r archoffeiriad, caiff ddychwelyd i'r tir sy'n feddiant iddo.

29'Bydd hyn yn ddeddf ac yn gyfraith i chwi trwy eich cenedlaethau lle bynnag y byddwch yn byw.

30Os bydd rhywun yn lladd rhywun arall, rhodder ef i farwolaeth ar dystiolaeth tystion; ond na rodder neb i farwolaeth ar dystiolaeth un tyst.

31Peidiwch � chymryd arian yn iawn am fywyd llofrudd a gafwyd yn euog o ladd; rhodder ef i farwolaeth.

32Peidiwch � chymryd arian yn iawn gan y sawl a ffodd i'w ddinas noddfa, er mwyn iddo gael dychwelyd i fyw i'w dir ei hun cyn marw'r archoffeiriad.

33Peidiwch � halogi'r wlad yr ydych yn byw ynddi; y mae gwaed yn halogi'r wlad, ac ni ellir gwneud iawn am y wlad y tywalltwyd gwaed ynddi ond trwy waed y sawl a'i tywalltodd.

34Peidiwch � gwneud y wlad yr ydych yn byw ynddi yn aflan, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn preswylio yn ei chanol ac ymysg pobl Israel.'"