Numeri 5:1-31 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2Gorchymyn i bobl Israel anfon allan o'r gwersyll bob gwahanglwyfus, pob un ac arno waedlif, a phob un a halogwyd trwy gyffwrdd � chorff marw.

3Anfonwch bob un allan, boed u373?r neu wraig, rhag iddo halogi'r gwersyll yr wyf yn preswylio yn ei ganol."

4Gwnaeth pobl Israel hyn, a'u hanfon allan o'r gwersyll, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

5Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

6Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd gu373?r neu wraig yn cyflawni unrhyw drosedd yn erbyn rhywun arall, ac yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, yna y mae'n euog,

7a dylai gyffesu'r trosedd a gyflawnodd; rhaid iddo wneud iawn amdano trwy dalu'n �l y cyfan, ac ychwanegu ato'r bumed ran, a'u rhoi i'r sawl y troseddodd yn ei erbyn.

8Os nad oes gan hwnnw berthynas y gellir talu'n �l iddo am y trosedd, taler ef i'r ARGLWYDD, trwy'r offeiriad, gyda'r hwrdd a ddefnyddir i wneud cymod dros y troseddwr.

9Bydd pob offrwm, a'r holl bethau cysegredig y bydd pobl Israel yn eu cyflwyno i'r offeiriad, yn eiddo iddo;

10bydd y pethau cysegredig i gyd, a phopeth arall y bydd rhywun yn ei gyflwyno i'r offeiriad, yn eiddo iddo.'"

11Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

12Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd gan ddyn wraig yn cyfeiliorni ac yn anffyddlon iddo

13trwy orwedd gyda dyn arall, a'i gu373?r heb fod yn gwybod, a'i halogrwydd yn guddiedig am nad oedd tyst ac na chafodd ei dal,

14yna, os daw ysbryd o eiddigedd dros ei gu373?r oherwydd ei wraig, boed hi wedi ei halogi ei hun neu beidio,

15deued �'i wraig at yr offeiriad, a chyflwyno offrwm drosti, sef degfed ran o effa o flawd haidd; nid yw i dywallt olew drosto na rhoi thus ynddo, oherwydd bwydoffrwm dros eiddigedd yw, a bwydoffrwm i goff�u camwedd.

16'Yna daw'r offeiriad � hi ymlaen a gwneud iddi sefyll gerbron yr ARGLWYDD,

17a bydd yn cymryd du373?r cysegredig mewn llestr pridd, a chymysgu ag ef beth o'r llwch oddi ar lawr y tabernacl.

18Wedi iddo ddod �'r wraig gerbron yr ARGLWYDD, bydd yr offeiriad yn cymryd y gorchudd oddi ar ei phen, ac yn rhoi yn ei dwylo y bwydoffrwm coffa, sef y bwydoffrwm dros eiddigedd. Bydd yntau'n cario'r du373?r chwerw sy'n achosi melltith.

19Yna fe wna iddi dyngu llw, ac fe ddywed wrthi, "Os nad oes dyn wedi gorwedd gyda thi, ac os nad wyt wedi cyfeiliorni a'th halogi dy hun pan oeddit dan awdurdod dy u373?r, yna ni fydd y du373?r chwerw sy'n achosi melltith yn dy niweidio.

20Ond os wyt wedi cyfeiliorni a'th halogi dy hun, a gadael i ddyn arall orwedd gyda thi tra oeddit dan awdurdod dy u373?r,

21(yna, wedi i'r offeiriad beri i'r wraig dyngu llw'r felltith, fe ddywed wrthi) "boed i'r ARGLWYDD dy wneud yn felltith ac yn llw ymhlith dy bobl trwy bydru dy glun a chwyddo dy groth;

22bydd y du373?r hwn sy'n achosi melltith yn mynd i mewn i'th ymysgaroedd, ac yn peri i'th groth chwyddo ac i'th glun bydru." Yna bydd y wraig yn dweud, "Amen, Amen."

23'Yna bydd yr offeiriad yn ysgrifennu'r melltithion hyn mewn llyfr ac yn eu golchi ymaith i'r du373?r chwerw;

24bydd yn peri i'r wraig yfed y du373?r chwerw sy'n achosi melltith, a bydd y du373?r, o'i yfed, yn peri artaith chwerw iddi.

25Yna bydd yr offeiriad yn cymryd y bwydoffrwm dros eiddigedd o ddwylo'r wraig, ac yn ei chwifio gerbron yr ARGLWYDD cyn dod ag ef at yr allor.

26Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r bwydoffrwm fel offrwm coffa, ac yn ei losgi ar yr allor; yna fe wna i'r wraig yfed y du373?r.

27Os bu i'r wraig ei halogi ei hun a bod yn anffyddlon i'w gu373?r, bydd y du373?r, wedi iddi ei yfed, yn achosi melltith ac yn peri artaith chwerw iddi. Bydd ei chroth yn chwyddo a'i chlun yn pydru, a bydd y wraig yn felltith ymhlith ei phobl.

28Ond os na fu i'r wraig ei halogi ei hun, ac os yw'n l�n, yna bydd yn rhydd i esgor ar blant.

29'Dyma'r ddeddf mewn achosion o eiddigedd pan fo gwraig, a hithau dan awdurdod ei gu373?r, yn cyfeiliorni ac yn ei halogi ei hun,

30a phan fo ysbryd o eiddigedd yn dod dros y gu373?r o achos ei wraig: y mae i wneud iddi sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a bydd yr offeiriad yn ei thrin yn unol �'r holl ddeddf hon.

31Bydd y gu373?r yn ddieuog o gamwedd, ond bydd y wraig yn dwyn ei chamwedd arni hi ei hun.'"

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>