Numeri 7:1-89 BCN1988 - Bible AI

1Ar y dydd y gorffennodd Moses godi'r tabernacl, fe'i heneiniodd a'i gysegru ynghyd �'i holl ddodrefn, yr allor a'i holl lestri.

2Yna daeth arweinwyr Israel, sef y pennau-teuluoedd ac arweinwyr y llwythau oedd yn goruchwylio'r rhai a gyfrifwyd,

3a chyflwyno'u hoffrwm gerbron yr ARGLWYDD; yr oedd ganddynt chwech o gerbydau a gorchudd drostynt, a deuddeg o ychen, un cerbyd ar gyfer pob dau arweinydd, ac ych ar gyfer pob un. Wedi iddynt ddod �'u hoffrymau o flaen y tabernacl,

4dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

5Cymer y rhain ganddynt i'w defnyddio yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod, a rho hwy i'r Lefiaid, i bob un yn �l gofynion ei waith."

6Felly cymerodd Moses y cerbydau a'r ychen, a'u rhoi i'r Lefiaid.

7Rhoddodd ddau gerbyd a phedwar ych i feibion Gerson, yn �l gofynion eu gwaith,

8a phedwar cerbyd ac wyth ych i feibion Merari, yn �l gofynion eu gwaith; yr oeddent hwy dan awdurdod Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

9Ond ni roddodd yr un i feibion Cohath, oherwydd ar eu hysgwyddau yr oeddent hwy i gludo'r pethau cysegredig oedd dan eu gofal.

10Ar y dydd yr eneiniwyd yr allor, daeth yr arweinwyr �'r aberthau a'u hoffrymu o flaen yr allor i'w chysegru.

11Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Bydd un arweinydd bob dydd yn cyflwyno'i offrymau i gysegru'r allor."

12Yr arweinydd a gyflwynodd ei offrwm ar y dydd cyntaf oedd Nahson fab Amminadab o lwyth Jwda.

13Ei offrwm ef oedd: pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

14dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

15bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

16bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

17dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Nahson fab Amminadab.

18Ar yr ail ddydd, offrymodd Nethanel fab Suar, arweinydd Issachar, ei offrwm yntau:

19pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

20dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

21bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

22bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

23dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Nethanel fab Suar.

24Ar y trydydd dydd, offrymodd Eliab fab Helon, arweinydd pobl Sabulon, ei offrwm yntau:

25pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

26dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

27bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

28bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

29dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliab fab Helon.

30Ar y pedwerydd dydd, offrymodd Elisur fab Sedeur, arweinydd pobl Reuben, ei offrwm yntau:

31pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

32dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

33bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

34bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

35dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisur fab Sedeur.

36Ar y pumed dydd, offrymodd Selumiel fab Surisadai, arweinydd pobl Simeon, ei offrwm yntau:

37pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

38dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

39bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

40bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

41dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Selumiel fab Surisadai.

42Ar y chweched dydd, offrymodd Eliasaff fab Reuel, arweinydd pobl Gad, ei offrwm yntau:

43pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

44dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

45bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

46bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

47dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliasaff fab Reuel.

48Ar y seithfed dydd, offrymodd Elisama fab Ammihud, arweinydd pobl Effraim, ei offrwm yntau:

49pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

50dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

51bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

52bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

53dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisama fab Ammihud.

54Ar yr wythfed dydd, offrymodd Gamaliel fab Pedasur, arweinydd pobl Manasse, ei offrwm yntau:

55pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

56dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

57bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

58bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

59dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Gamaliel fab Pedasur.

60Ar y nawfed dydd, offrymodd Abidan fab Gideoni, arweinydd pobl Benjamin, ei offrwm yntau:

61pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

62dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

63bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

64bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

65dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Abidan fab Gideoni.

66Ar y degfed dydd, offrymodd Ahieser fab Ammisadai, arweinydd pobl Dan, ei offrwm yntau:

67pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

68dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

69bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

70bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

71dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahieser fab Ammisadai.

72Ar yr unfed dydd ar ddeg, offrymodd Pagiel fab Ocran, arweinydd pobl Aser, ei offrwm yntau:

73pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

74dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

75bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

76bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

77dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Pagiel fab Ocran.

78Ar y deuddegfed dydd, offrymodd Ahira fab Enan, arweinydd pobl Nafftali, ei offrwm yntau:

79pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn �l sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

80dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

81bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

82bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

83dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahira fab Enan.

84Dyma oedd yr offrwm gan arweinwyr Israel ar gyfer cysegru'r allor ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg pl�t arian, deuddeg cawg arian a deuddeg dysgl aur,

85a phob pl�t arian yn pwyso cant tri deg o siclau, pob cawg arian yn pwyso saith deg o siclau, a'r holl lestri arian yn pwyso dwy fil pedwar cant o siclau, yn �l sicl y cysegr;

86hefyd, deuddeg dysgl aur yn llawn o arogldarth, pob un yn pwyso deg sicl, yn �l sicl y cysegr, a'r holl ddysglau aur yn pwyso cant ac ugain o siclau;

87hefyd, gwartheg ar gyfer y poethoffrwm, yn gyfanswm o ddeuddeg bustach, deuddeg hwrdd, deuddeg oen gwryw gyda'r bwydoffrwm; yr oedd deuddeg bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

88gwartheg ar gyfer aberth yr heddoffrwm, yn gyfanswm o bedwar ar hugain o fustych, trigain hwrdd, trigain bwch, a thrigain oen gwryw. Dyma oedd yr offrwm ar gyfer cysegru'r allor, wedi ei heneinio.

89Pan aeth Moses i mewn i babell y cyfarfod i lefaru wrth yr ARGLWYDD, clywodd lais yn galw arno o'r drugareddfa oedd ar arch y dystiolaeth rhwng y ddau gerwb; ac yr oedd y llais yn siarad ag ef.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>