Pregethwr 10:1-20 BCN1988 - Bible AI

1Fel y mae pryfed meirw yn gwneud i ennaint y peraroglydd ddrewi, felly y mae ychydig ffolineb yn tynnu oddi wrth ddoethineb ac anrhydedd.

2Y mae calon y doeth yn ei arwain i'r dde, ond calon y ff�l yn ei droi i'r chwith.

3Pan yw'r ff�l yn cerdded ar y ffordd, nid oes synnwyr ganddo, ac y mae'n dweud wrth bawb ei fod yn ynfyd.

4Os enynnir llid y llywodraethwr yn dy erbyn, paid ag ymddiswyddo; y mae pwyll yn tymheru troseddau mawr.

5Gwelais beth drwg dan yr haul, sef camgymeriad yn deillio oddi wrth y llywodraethwr:

6ffu373?l wedi ei osod mewn safleoedd pwysig, a'r cyfoethog wedi eu gosod yn israddol.

7Gwelais weision ar geffylau, a thywysogion yn cerdded fel gweision.

8Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo, a'r sawl sy'n chwalu clawdd yn cael ei frathu gan neidr.

9Y mae'r un sy'n symud cerrig yn cael niwed ganddynt, a'r sawl sy'n hollti coed yn cael dolur ganddynt.

10Os yw bwyell yn ddi-fin, a heb ei hogi, yna rhaid defnyddio mwy o nerth; ond y mae medr yn dod � llwyddiant.

11Os na swynir neidr cyn iddi frathu, nid oes mantais o gael swynwr.

12Y mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr, ond geiriau'r ff�l yn ei ddinistrio.

13Y mae ei eiriau'n dechrau yn ff�l, ac yn diweddu mewn ynfydrwydd llwyr,

14a'r ffu373?l yn amlhau geiriau. Nid oes neb yn gwybod beth a ddaw, a phwy a all ddweud wrth neb beth fydd ar ei �l?

15Y mae llafur y ff�l yn ei wneud yn lluddedig, ac ni u373?yr sut i fynd i'r ddinas.

16Gwae di, wlad, pan fydd gwas yn frenin arnat, a'th dywysogion yn gwledda yn y bore!

17Gwyn dy fyd, wlad, pan fydd dy frenin yn fab pendefig, a'th dywysogion yn gwledda ar yr amser priodol, a hynny i gryfhau ac nid i feddwi!

18Y mae'r trawstiau'n dadfeilio o ganlyniad i ddiogi, a'r tu375?'n gollwng o achos llaesu dwylo.

19I gael llawenydd y paratoir gwledd, ac y mae gwin yn llonni bywyd, ac arian yn ateb i bopeth.

20Paid � melltithio'r brenin yn dy feddwl, na'r cyfoethog yn dy ystafell wely, oherwydd gall adar yr awyr gario dy lais, a pherchen adain fynegi'r hyn a ddywedi.

le>