1Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
2amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio'r hyn a blannwyd;
3amser i ladd, ac amser i iach�u, amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu;
4amser i wylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio;
5amser i daflu cerrig, ac amser i'w casglu, amser i gofleidio, ac amser i ymatal;
6amser i geisio, ac amser i golli, amser i gadw, ac amser i daflu ymaith;
7amser i rwygo, ac amser i drwsio, amser i dewi, ac amser i siarad;
8amser i garu, ac amser i gas�u, amser i ryfel, ac amser i heddwch.
9Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio?
10Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni.
11Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd.
12Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da,
13a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur.
14Yr wyf yn gwybod hefyd fod y cyfan a wna Duw yn aros byth; ni ellir ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho. Gweithreda Duw fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.
15Y mae'r hyn sy'n bod wedi bod eisoes, a'r hyn sydd i ddod hefyd wedi bod eisoes, ac y mae Duw yn chwilio am yr hyn a ddiflannodd.
16Hefyd gwelais dan yr haul fod drygioni wedi cymryd lle barn a chyfiawnder.
17Ond dywedais wrthyf fy hun, "Bydd Duw yn barnu'r cyfiawn a'r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith."
18Dywedais wrthyf fy hun, "Y mae Duw yn profi pobl er mwyn iddynt weld eu bod fel yr anifeiliaid."
19Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd.
20Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd.
21Pwy sy'n gwybod a yw ysbryd dynol yn mynd i fyny ac ysbryd anifail yn mynd i lawr i'r ddaear?
22Yna gwelais nad oes dim yn well i rywun na'i fwynhau ei hun yn ei waith, oherwydd dyna yw ei dynged. Pwy all wneud iddo weld beth fydd ar ei �l?