1Pwy sydd fel y doeth? Pwy sy'n deall ystyr pethau? Y mae doethineb yn gwneud i wyneb rhywun ddisgleirio, ac yn newid caledwch ei drem.
2Cadw orchymyn y brenin, o achos y llw i Dduw.
3Paid � rhuthro o'i u373?ydd, na dyfalbarhau gyda'r hyn sydd ddrwg, oherwydd y mae ef yn gwneud yr hyn a ddymuna.
4Y mae awdurdod yng ngair y brenin, a phwy a all ofyn iddo, "Beth wyt yn ei wneud?"
5Ni ddaw niwed i'r un sy'n cadw gorchymyn, a gu373?yr y doeth yr amser a'r ffordd i weithredu.
6Yn wir, y mae amser a ffordd i bob gorchwyl, er bod trueni pobl yn drwm arnynt.
7Nid oes neb sy'n gwybod beth a fydd; a phwy a all fynegi beth a ddigwydd?
8Ni all neb reoli'r gwynt, ac nid oes gan neb awdurdod dros ddydd marwolaeth. Nid oes bwrw arfau mewn rhyfel, ac ni all drygioni waredu ei feistr.
9Gwelais hyn i gyd wrth imi sylwi ar yr hyn a ddigwydd dan yr haul, pan fydd rhywun yn arglwyddiaethu ar ei gymrodyr i beri niwed iddynt.
10Yna gwelais bobl ddrwg yn cael eu claddu. Arferent fynd a dod o'r lle sanctaidd, a chael eu canmol yn y ddinas lle'r oeddent wedi gwneud y pethau hyn. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
11Gan na roddir dedfryd fuan ar weithred ddrwg, y mae calonnau pobl yn ymroi'n llwyr i ddrygioni.
12Gall pechadur wneud drwg ganwaith a byw'n hir; eto gwn y bydd daioni i'r rhai sy'n ofni Duw ac yn ei barchu.
13Ni fydd daioni i'r drygionus, ac nid estynnir ei ddyddiau fel cysgod, am nad yw'n ofni Duw.
14Dyma'r gwagedd a wneir ar y ddaear: pobl gyfiawn yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n anghyfiawn, a phobl ddrwg yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n gyfiawn. Dywedais fod hyn hefyd yn wagedd.
15Yr wyf yn canmol llawenydd, gan mai'r unig beth da i bawb dan yr haul yw bwyta ac yfed a bod yn llawen; oherwydd fe erys hyn gyda hwy pan y maent yn llafurio yn ystod y dyddiau a rydd Duw iddynt dan yr haul.
16Pan roddais fy mryd ar ddeall doethineb a sylwi ar yr hyn a ddigwydd ar y ddaear, a gweld pobl heb gael cwsg i'w llygaid na dydd na nos,
17yna gwelais y cyfan a wnaeth Duw. Eto nid oes neb yn gallu dirnad yr hyn a wneir dan yr haul. Er iddo ymdrechu i chwilio, nid yw'n dirnad; ac er i'r doeth feddwl ei fod yn deall, nid yw yntau'n dirnad.