Ruth 2:1-23 BCN1988 - Bible AI

1Yr oedd gan Naomi berthynas i'w gu373?r, dyn cefnog o'r enw Boas o dylwyth Elimelech.

2Dywedodd Ruth y Foabes wrth Naomi, "Gad imi fynd i'r caeau u375?d i loffa ar �l pwy bynnag fydd yn caniat�u imi." Dywedodd Naomi wrthi, "Ie, dos, fy merch."

3Felly fe aeth i'r caeau i loffa ar �l y medelwyr, a digwyddodd iddi ddewis y rhandir oedd yn perthyn i Boas, y dyn oedd o dylwyth Elimelech.

4A dyna Boas ei hun yn cyrraedd o Fethlehem ac yn cyfarch y medelwyr, "Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi," a hwythau'n ateb, "Bendithied yr ARGLWYDD dithau."

5Yna gofynnodd Boas i'w was oedd yn gofalu am y medelwyr, "Geneth pwy yw hon?"

6Atebodd y gwas, "Geneth o Moab ydyw; hi a ddaeth yn �l gyda Naomi o wlad Moab.

7Gofynnodd am ganiat�d i loffa a hel rhwng yr ysgubau ar �l y medelwyr. Fe ddaeth, ac y mae wedi bod ar ei thraed o'r bore bach hyd yn awr, heb orffwys o gwbl."

8Dywedodd Boas wrth Ruth, "Gwrando, fy merch, paid � mynd i loffa i faes arall na symud oddi yma, ond glu375?n wrth fy llancesau i.

9Cadw dy lygaid ar y maes y maent yn ei fedi, a dilyn hwy. Onid wyf fi wedi gorchymyn i'r gweision beidio ag ymyrryd � thi? Os bydd syched arnat, dos i yfed o'r llestri a lanwodd y gweision."

10Moesymgrymodd hithau hyd y llawr a dweud wrtho, "Pam yr wyf yn cael y fath garedigrwydd gennyt fel dy fod yn cymryd sylw ohonof fi, a minnau'n estrones?"

11Atebodd Boas hi a dweud, "Cefais wybod am y cwbl yr wyt ti wedi ei wneud i'th fam-yng-nghyfraith ar �l marw dy u373?r, ac fel y gadewaist dy dad a'th fam a'th wlad enedigol, a dod at bobl nad oeddit yn eu hadnabod o'r blaen.

12Bydded i'r ARGLWYDD dy wobrwyo am dy weithred, a bydded iti gael dy dalu'n llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, y daethost i geisio nodded dan ei adain."

13Dywedodd hi, "Yr wyt yn garedig iawn, f'arglwydd, oherwydd yr wyt wedi cysuro a chalonogi dy forwyn, er nad wyf yn un o'th forynion di."

14Dywedodd Boas wrthi, adeg bwyd, "Tyrd yma a bwyta o'r bara a gwlychu dy damaid yn y finegr." Wedi iddi eistedd wrth ochr y medelwyr, estynnodd yntau iddi u375?d wedi ei grasu, a bwytaodd ei gwala a gadael gweddill.

15Yna, pan gododd hi i loffa, gorchmynnodd Boas i'w weision, "Gadewch iddi loffa hyd yn oed ymysg yr ysgubau, a pheidiwch �'i dwrdio;

16yr wyf am i chwi hyd yn oed dynnu peth allan o'r dyrneidiau a'i adael iddi i'w loffa; a pheidiwch �'i cheryddu."

17Bu'n lloffa yn y maes hyd yr hwyr, a phan ddyrnodd yr hyn yr oedd wedi ei loffa, cafodd tuag effa o haidd.

18Fe'i cymerodd gyda hi i'r dref, a dangos i'w mam-yng-nghyfraith faint yr oedd wedi ei loffa; hefyd fe dynnodd allan y bwyd a gadwodd ar �l cael digon, a'i roi iddi.

19Gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith iddi, "Ple buost ti'n lloffa ac yn llafurio heddiw? Bendith ar y sawl a gymerodd sylw ohonot." Eglurodd hithau i'w mam-yng-nghyfraith gyda phwy y bu'n llafurio, a dweud, "Boas oedd enw'r dyn y b�m yn llafurio gydag ef heddiw."

20Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith, "Bendith yr ARGLWYDD arno! Nid yw'r ARGLWYDD wedi atal ei drugaredd at y byw na'r meirw." Ac ychwanegodd Naomi, "Y mae'r dyn yn perthyn inni, ac yn un o'n perthnasau agosaf."

21Yna dywedodd Ruth y Foabes, "Fe ddywedodd wrthyf hefyd am lynu wrth ei weision ef nes iddynt orffen ei gynhaeaf."

22Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith Ruth, "Y mae'n well iti, fy merch, fynd allan gyda'i lancesau ef, rhag i rywrai ymosod arnat mewn rhyw faes arall."

23A glynodd hithau wrth lancesau Boas i loffa hyd ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith, ond yr oedd yn byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>