Salmau 10:1-18 BCN1988 - Bible AI

1Pam, ARGLWYDD, y sefi draw, ac ymguddio yn amser cyfyngder?

2Y mae'r drygionus yn ei falchder yn ymlid yr anghenus; dalier ef yn y cynlluniau a ddyfeisiodd.

3Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun, ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD.

4Nid yw'r drygionus ffroenuchel yn ei geisio, nid oes lle i Dduw yn ei holl gynlluniau.

5Troellog yw ei ffyrdd bob amser, y mae dy farnau di y tu hwnt iddo; ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga.

6Fe ddywed ynddo'i hun, "Ni'm symudir; trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf."

7Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais; y mae cynnen a drygioni dan ei dafod.

8Y mae'n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi, ac yn lladd y diniwed yn y dirgel; gwylia ei lygaid am yr anffodus.

9Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau; llecha er mwyn llarpio'r truan, ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd;

10caiff ei ysigo a'i ddarostwng ganddo, ac fe syrthia'r anffodus i'w grafangau.

11Dywed yntau ynddo'i hun, "Anghofiodd Duw, cuddiodd ei wyneb ac ni w�l ddim."

12Cyfod, ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law; nac anghofia'r anghenus.

13Pam y mae'r drygionus yn dy ddirmygu, O Dduw, ac yn tybio ynddo'i hun nad wyt yn galw i gyfrif?

14Ond yn wir, yr wyt yn edrych ar helynt a gofid, ac yn sylwi er mwyn ei gymryd yn dy law; arnat ti y dibynna'r anffodus, ti sydd wedi cynorthwyo'r amddifad.

15Dryllia nerth y drygionus a'r anfad; chwilia am ei ddrygioni nes ei ddihysbyddu.

16Y mae'r ARGLWYDD yn frenin byth bythoedd; difethir y cenhedloedd o'i dir.

17Clywaist, O ARGLWYDD, ddyhead yr anghenus; yr wyt yn cryfhau eu calon wrth wrando arnynt,

18yn gweinyddu barn i'r amddifad a'r gorthrymedig, rhag i feidrolion beri ofn mwyach.