Salmau 100:1-5 BCN1988 - Bible AI

11 Salm. I ddiolch.0 Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear.

2Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd, dewch o'i flaen � ch�n.

3Gwybyddwch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw; ef a'n gwnaeth, a'i eiddo ef ydym, ei bobl a defaid ei borfa.

4Dewch i mewn i'w byrth � diolch, ac i'w gynteddau � mawl. Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.

5Oherwydd da yw'r ARGLWYDD; y mae ei gariad hyd byth, a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.