1Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy Nuw, mawr iawn wyt ti; yr wyt wedi dy wisgo ag ysblander ac anrhydedd,
2a'th orchuddio � goleuni fel mantell. Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell,
3yn gosod tulathau dy balas ar y dyfroedd, yn cymryd y cymylau'n gerbyd, yn marchogaeth ar adenydd y gwynt,
4yn gwneud y gwyntoedd yn negeswyr, a'r fflamau t�n yn weision.
5Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini, fel na fydd yn symud byth bythoedd;
6gwnaethost i'r dyfnder ei gorchuddio fel dilledyn, ac y mae dyfroedd yn sefyll goruwch y mynyddoedd.
7Gan dy gerydd di fe ffoesant, gan su373?n dy daranau ciliasant draw,
8a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd, i'r lle a bennaist ti iddynt;
9rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi, rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear.
10Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau, yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd;
11rh�nt ddiod i holl fwystfilod y maes, a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu;
12y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl, ac yn trydar ymysg y canghennau.
13Yr wyt yn dyfrhau'r mynyddoedd o'th balas; digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth.
14Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg, a phlanhigion at wasanaeth pobl, i ddwyn allan fwyd o'r ddaear,
15a gwin i lonni calonnau pobl, olew i ddisgleirio'u hwynebau, a bara i gynnal eu calonnau.
16Digonir y coedydd cryfion, y cedrwydd Lebanon a blannwyd,
17lle mae'r adar yn nythu, a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau.
18Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr, ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod.
19Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau, ac i'r haul wybod pryd i fachlud.
20Trefnaist dywyllwch, fel bod nos, a holl anifeiliaid y goedwig yn ymlusgo allan,
21gyda'r llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth, ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw.
22Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith, ac yn gorffwyso yn eu ffeuau.
23A daw pobl allan i weithio, ac at eu llafur hyd yr hwyrnos.
24Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! Gwnaethost y cyfan mewn doethineb; y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid.
25Dyma'r m�r mawr a llydan, gydag ymlusgiaid dirifedi a chreaduriaid bach a mawr.
26Arno y mae'r llongau yn tramwyo, a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo.
27Y mae'r cyfan ohonynt yn dibynnu arnat ti i roi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
28Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd; pan agori dy law, c�nt eu diwallu'n llwyr.
29Ond pan guddi dy wyneb, fe'u drysir; pan gymeri eu hanadl, fe ddarfyddant, a dychwelyd i'r llwch.
30Pan anfoni dy anadl, c�nt eu creu, ac yr wyt yn adnewyddu wyneb y ddaear.
31Bydded gogoniant yr ARGLWYDD dros byth, a bydded iddo lawenhau yn ei weithredoedd.
32Pan yw'n edrych ar y ddaear, y mae'n crynu; pan yw'n cyffwrdd �'r mynyddoedd, y maent yn mygu.
33Canaf i'r ARGLWYDD tra byddaf byw, rhof foliant i Dduw tra byddaf.
34Bydded fy myfyrdod yn gymeradwy ganddo; yr wyf yn llawenhau yn yr ARGLWYDD.
35Bydded i'r pechaduriaid ddarfod o'r tir, ac na fydded y drygionus mwyach. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.