1Diolchwch i'r ARGLWYDD. Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
2Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau.
3Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd; llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
4Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser.
5Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth, ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
6chwi ddisgynyddion Abraham, ei was, disgynyddion Jacob, ei etholedig.
7Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw, ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
8Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
9sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac �
10yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
11a dweud, "I chwi y rhoddaf wlad Canaan yn gyfran eich etifeddiaeth."
12Pan oeddent yn fychan o rif, yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
13yn crwydro o genedl i genedl, ac o un deyrnas at bobl eraill,
14ni adawodd i neb eu darostwng, ond ceryddodd frenhinoedd o'u hachos,
15a dweud, "Peidiwch � chyffwrdd �'m heneiniog, na gwneud niwed i'm proffwydi."
16Pan alwodd am newyn dros y wlad, a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara,
17yr oedd wedi anfon gu373?r o'u blaenau, Joseff, a werthwyd yn gaethwas.
18Doluriwyd ei draed yn y cyffion, a rhoesant haearn am ei wddf,
19nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir, ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir.
20Anfonodd y brenin i'w ryddhau � brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd;
21gwnaeth ef yn feistr ar ei du375?, ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo,
22i hyfforddi ei dywysogion yn �l ei ddymuniad, ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid.
23Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft, a Jacob i grwydro yn nhir Ham.
24A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn, ac aethant yn gryfach na'u gelynion.
25Trodd yntau eu calon i gas�u ei bobl, ac i ymddwyn yn ddichellgar at ei weision.
26Yna anfonodd ei was Moses, ac Aaron, yr un yr oedd wedi ei ddewis,
27a thrwy eu geiriau hwy gwnaeth arwyddion a gwyrthiau yn nhir Ham.
28Anfonodd dywyllwch, ac aeth yn dywyll, eto yr oeddent yn gwrthryfela yn erbyn ei eiriau.
29Trodd eu dyfroedd yn waed, a lladdodd eu pysgod.
30Llanwyd eu tir � llyffaint, hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd.
31Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfed a llau trwy'r holl wlad.
32Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw, a mellt yn fflachio trwy eu gwlad.
33Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd, a malurio'r coed trwy'r wlad.
34Pan lefarodd ef, daeth locustiaid a lindys heb rifedi,
35nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad, a difa holl gynnyrch y ddaear.
36A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad, blaenffrwyth eu holl nerth.
37Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur, ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau.
38Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan, oherwydd bod arnynt eu hofn hwy.
39Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio, a th�n i oleuo iddynt yn y nos.
40Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt, a digonodd hwy � bara'r nefoedd.
41Holltodd graig nes bod du373?r yn pistyllio, ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch.
42Oherwydd yr oedd yn cofio ei addewid sanctaidd i Abraham ei was.
43Dygodd ei bobl allan mewn llawenydd, ei rai etholedig mewn gorfoledd.
44Rhoes iddynt diroedd y cenhedloedd, a chymerasant feddiant o ffrwyth llafur pobloedd,
45er mwyn iddynt gadw ei ddeddfau, ac ufuddhau i'w gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.