11 C�n. Salm. I Ddafydd.0 Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw; fe ganaf, a rhoi mawl. Deffro, fy enaid.
2Deffro di, nabl a thelyn. Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.
3Rhof ddiolch i ti, O ARGLWYDD, ymysg y bobloedd, a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,
4oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.
5Dyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw, a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
6Er mwyn gwaredu dy anwyliaid, achub �'th ddeheulaw, ac ateb ni.
7Llefarodd Duw yn ei gysegr, "Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem, a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;
8eiddof fi yw Gilead a Manasse; Effraim yw fy helm, a Jwda yw fy nheyrnwialen;
9Moab yw fy nysgl ymolchi, ac at Edom y taflaf fy esgid; ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf."
10Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog? Pwy a'm harwain i Edom?
11Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod, a pheidio � mynd allan gyda'n byddinoedd?
12Rho inni gymorth rhag y gelyn, oherwydd ofer yw ymwared dynol.
13Gyda Duw fe wnawn wrhydri; ef fydd yn sathru ein gelynion.