11 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.0 O Dduw fy moliant, paid � thewi.
2Oherwydd agorasant eu genau drygionus a thwyllodrus yn fy erbyn, a llefaru wrthyf � thafod celwyddog,
3a'm hamgylchu � geiriau casineb, ac ymosod arnaf heb achos.
4Am fy ngharedigrwydd y'm cyhuddant, a minnau'n gwedd�o drostynt.
5Talasant imi ddrwg am dda, a chasineb am gariad.
6Apwyntier un drwg yn ei erbyn, a chyhuddwr i sefyll ar ei dde.
7Pan fernir ef, caffer ef yn euog, ac ystyrier ei weddi'n bechod.
8Bydded ei ddyddiau'n ychydig, a chymered arall ei swydd;
9bydded ei blant yn amddifad a'i wraig yn weddw.
10Crwydred ei blant i gardota � wedi eu troi allan o'u hadfeilion.
11Cymered y benthyciwr bopeth sydd ganddo, a dyged estroniaid ei enillion.
12Na fydded i neb drugarhau wrtho, na gwneud ffafr �'i blant amddifad.
13Torrer ymaith ei linach, a'i henw wedi ei ddileu o fewn cenhedlaeth.
14Dyger i gof ddrygioni ei hynafiaid gerbron yr ARGLWYDD, ac na ddileer pechodau ei fam.
15Bydded hyn mewn cof gan yr ARGLWYDD yn wastad, a bydded iddo dorri ymaith eu coffa o'r tir.
16Oherwydd ni chofiodd hwn fod yn ffyddlon, ond erlidiodd y gorthrymedig a'r tlawd, a'r drylliedig o galon hyd angau.
17Carodd felltithio: doed melltith arno yntau. Ni hoffai fendithio; pell y bo bendith oddi wrtho yntau.
18Gwisgodd felltith amdano fel dilledyn; suddodd i'w gnawd fel du373?r, ac fel olew i'w esgyrn.
19Bydded fel y dillad a wisga, ac fel y gwregys sydd amdano bob amser.
20Hyn fyddo t�l yr ARGLWYDD i'm cyhuddwyr, sy'n llefaru drygioni yn fy erbyn.
21Ond tydi, fy ARGLWYDD Dduw, gweithreda drosof er mwyn dy enw; oherwydd daioni dy gariad, gwareda fi.
22Yr wyf yn druan a thlawd, a'm calon mewn gwewyr ynof.
23Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd; fe'm gyrrir ymaith fel locust.
24Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd, a'm corff yn denau o ddiffyg braster.
25Deuthum yn gyff gwawd iddynt; pan welant fi, ysgydwant eu pennau.
26Cynorthwya, fi, O ARGLWYDD fy Nuw, achub fi yn �l dy drugaredd,
27a gad iddynt wybod mai dy law di ydyw, mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaeth.
28Pan f�nt hwy'n melltithio, bendithia di; cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a bydded dy was yn llawen.
29Gwisger fy nghyhuddwyr � gwarth; bydded eu cywilydd fel mantell amdanynt.
30Clodforaf fi yr ARGLWYDD �'m genau, a moliannaf ef yng ngu373?ydd cynulleidfa.
31Oherwydd saif ef ar ddeheulaw'r tlawd, i'w achub rhag ei gyhuddwyr.