Salmau 11:1-7 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd.0 Yn yr ARGLWYDD y cefais loches; sut y gallwch ddweud wrthyf, "Ffo fel aderyn i'r mynydd,

2oherwydd y mae'r drygionus yn plygu'r bwa ac yn gosod eu saethau yn y llinyn i saethu yn y tywyllwch at yr uniawn"?

3Os dinistrir y sylfeini, beth a wna'r cyfiawn?

4Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd, a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd; y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw, a'i olygon yn ei phrofi.

5Profa'r ARGLWYDD y cyfiawn a'r drygionus, a chas ganddo'r sawl sy'n caru trais.

6Y mae'n glawio marwor tanllyd a brwmstan ar y drygionus; gwynt deifiol fydd eu rhan.

7Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn ac yn caru cyfiawnder, a'r uniawn sy'n gweld ei wyneb.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>