Salmau 110:1-7 BCN1988 - Bible AI

11 I Ddafydd. Salm.0 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd: "Eistedd ar fy neheulaw, nes imi wneud dy elynion yn droedfainc i ti."

2Y mae'r ARGLWYDD yn estyn i ti o Seion deyrnwialen awdurdod; llywodraetha dithau yng nghanol dy elynion.

3Y mae dy bobl yn deyrngar iti ar ddydd dy eni mewn gogoniant sanctaidd o groth y wawr; fel gwlith y'th genhedlais di.

4Tyngodd yr ARGLWYDD, ac ni newidia, "Yr wyt yn offeiriad am byth yn �l urdd Melchisedec."

5Y mae'r Arglwydd ar dy ddeheulaw yn dinistrio brenhinoedd yn nydd ei ddicter.

6Fe weinydda farn ymysg y cenhedloedd, a'u llenwi � chelanedd; dinistria benaethiaid dros ddaear lydan.

7Fe yf o'r nant ar y ffordd, ac am hynny y cwyd ei ben.