1Molwch yr ARGLWYDD. Diolchaf i'r ARGLWYDD �'m holl galon yng nghwmni'r uniawn, yn y gynulleidfa.
2Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt.
3Llawn anrhydedd a mawredd yw ei waith, a saif ei gyfiawnder am byth.
4Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau; graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD.
5Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni, ac yn cofio ei gyfamod am byth.
6Dangosodd i'w bobl rym ei weithredoedd trwy roi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn, a'i holl orchmynion yn ddibynadwy;
8y maent wedi eu sefydlu hyd byth, ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb.
9Rhoes waredigaeth i'w bobl, a gorchymyn ei gyfamod dros byth. Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw.
10Dechrau doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; y mae deall da gan bawb sy'n ufudd. Y mae ei foliant yn para byth.