1Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion.
2Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear, yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio.
3Bydd golud a chyfoeth yn ei du375?, a bydd ei gyfiawnder yn para am byth.
4Fe lewyrcha goleuni mewn tywyllwch i'r uniawn; y mae'r cyfiawn yn raslon a thrugarog.
5Da yw i bob un drugarhau a rhoi benthyg, a threfnu ei orchwylion yn onest;
6oherwydd ni symudir ef o gwbl, a chofir y cyfiawn dros byth.
7Nid yw'n ofni newyddion drwg; y mae ei galon yn ddi-gryn, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
8Y mae ei galon yn ddi-sigl, ac nid ofna nes iddo weld diwedd ar ei elynion.
9Y mae wedi rhoi'n hael i'r tlodion; y mae ei gyfiawnder yn para am byth, a'i gorn wedi ei ddyrchafu mewn anrhydedd.
10Gw�l y drygionus hyn ac y mae'n ddig; ysgyrnyga'i ddannedd a diffygia; derfydd am obaith y drygionus.