Salmau 113:1-9 BCN1988 - Bible AI

1Molwch yr ARGLWYDD. Molwch, chwi weision yr ARGLWYDD, molwch enw'r ARGLWYDD.

2Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD o hyn allan a hyd byth.

3O godiad haul hyd ei fachlud bydded enw'r ARGLWYDD yn foliannus.

4Uchel yw'r ARGLWYDD goruwch yr holl genhedloedd, a'i ogoniant goruwch y nefoedd.

5Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein Duw yn y nefoedd neu ar y ddaear,

6yn gosod ei orseddfainc yn uchel a hefyd yn ymostwng i edrych yn isel?

7Y mae ef yn codi'r gwan o'r llwch ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,

8i'w gosod gyda phendefigion, gyda phendefigion ei bobl.

9Rhydd deulu i'r wraig ddi-blant; daw hi'n fam lawen i blant. Molwch yr ARGLWYDD.