Salmau 115:1-18 BCN1988 - Bible AI

1Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i'th enw dy hun, rho ogoniant, er mwyn dy gariad a'th ffyddlondeb.

2Pam y mae'r cenhedloedd yn dweud, "Ple mae eu Duw?"

3Y mae ein Duw ni yn y nefoedd; fe wna beth bynnag a ddymuna.

4Arian ac aur yw eu delwau hwy, ac wedi eu gwneud � dwylo dynol.

5Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld;

6y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, a ffroenau nad ydynt yn arogli;

7y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo, a thraed nad ydynt yn cerdded; ac ni ddaw su373?n o'u gyddfau.

8Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt, ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.

9O Israel, ymddirieda yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian.

10O du375? Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian.

11Chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian.

12Y mae'r ARGLWYDD yn ein cofio ac yn ein bendithio; fe fendithia du375? Israel, fe fendithia du375? Aaron,

13fe fendithia'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD, y bychan a'r mawr fel ei gilydd.

14Bydded yr ARGLWYDD yn eich amlhau, chwi a'ch plant hefyd.

15Bydded ichwi gael bendith gan yr ARGLWYDD a wnaeth nefoedd a daear.

16Y nefoedd, eiddo'r ARGLWYDD yw, ond fe roes y ddaear i ddynolryw.

17Nid yw'r meirw yn moliannu'r ARGLWYDD, na'r holl rai sy'n mynd i lawr i dawelwch.

18Ond yr ydym ni'n bendithio'r ARGLWYDD yn awr a hyd byth. Molwch yr ARGLWYDD.

>