1Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth.
2Dyweded Israel yn awr, "Y mae ei gariad hyd byth."
3Dyweded tu375? Aaron yn awr, "Y mae ei gariad hyd byth."
4Dyweded y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD, "Y mae ei gariad hyd byth."
5O'm cyfyngder gwaeddais ar yr ARGLWYDD; atebodd yntau fi a'm rhyddhau.
6Y mae'r ARGLWYDD o'm tu, nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?
7Y mae'r ARGLWYDD o'm tu i'm cynorthwyo, a gwelaf ddiwedd ar y rhai sy'n fy nghas�u.
8Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDD nag ymddiried yn neb meidrol.
9Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDD nag ymddiried mewn tywysogion.
10Daeth yr holl genhedloedd i'm hamgylchu; yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.
11Daethant i'm hamgylchu ar bob tu; yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.
12Daethant i'm hamgylchu fel gwenyn, a llosgi fel t�n mewn drain; yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.
13Gwthiwyd fi'n galed nes fy mod ar syrthio, ond cynorthwyodd yr ARGLWYDD fi.
14Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm c�n, ac ef yw'r un a'm hachubodd.
15Clywch g�n gwaredigaeth ym mhebyll y rhai cyfiawn: "Y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus;
16y mae deheulaw'r ARGLWYDD wedi ei chodi; y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus."
17Nid marw ond byw fyddaf, ac adroddaf am weithredoedd yr ARGLWYDD.
18Disgyblodd yr ARGLWYDD fi'n llym, ond ni roddodd fi yn nwylo marwolaeth.
19Agorwch byrth cyfiawnder i mi; dof finnau i mewn a diolch i'r ARGLWYDD.
20Dyma borth yr ARGLWYDD; y cyfiawn a ddaw i mewn drwyddo.
21Diolchaf i ti am fy ngwrando a dod yn waredigaeth i mi.
22Y maen a wrthododd yr adeiladwyr a ddaeth yn brif gonglfaen.
23Gwaith yr ARGLWYDD yw hyn, ac y mae'n rhyfeddod yn ein golwg.
24Dyma'r dydd y gweithredodd yr ARGLWYDD; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.
25Yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, achub ni; yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, rho lwyddiant.
26Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r ARGLWYDD. Bendithiwn chwi o du375?'r ARGLWYDD.
27Yr ARGLWYDD sydd Dduw, rhoes oleuni i mi. � changau ymunwch yn yr orymdaith hyd at gyrn yr allor.
28Ti yw fy Nuw, a rhoddaf ddiolch i ti; fy Nuw, fe'th ddyrchafaf di.
29Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth.