Salmau 120:1-7 BCN1988 - Bible AI

11 C�n Esgyniad.0 C�n Esgyniad. Gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi.

2O ARGLWYDD, gwared fi rhag genau twyllodrus, a rhag tafod enllibus."

3Beth a roddir i ti, a beth yn ychwaneg a wneir, O dafod enllibus?

4Saethau llymion rhyfelwr, a marwor eirias!

5Gwae fi fy mod yn ymdeithio yn Mesech, ac yn byw ymysg pebyll Cedar.

6Yn rhy hir y b�m yn byw gyda'r rhai sy'n cas�u heddwch.

7Yr wyf fi am heddwch, ond pan soniaf am hynny, y maent hwy am ryfel.