Salmau 121:1-8 BCN1988 - Bible AI

11 C�n Esgyniad.0 Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi?

2Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear.

3Nid yw'n gadael i'th droed lithro, ac nid yw dy geidwad yn cysgu.

4Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno.

5Yr ARGLWYDD yw dy geidwad, yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw;

6ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd, na'r lleuad yn y nos.

7Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg, bydd yn cadw dy einioes.

8Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a'th ddod yn awr a hyd byth.