11 C�n Esgyniad. I Ddafydd.0 Oni bai i'r ARGLWYDD fod o'n tu � dyweded Israel hynny �
2oni bai i'r ARGLWYDD fod o'n tu pan gododd rhai yn ein herbyn,
3byddent wedi'n llyncu'n fyw wrth i'w llid losgi tuag atom;
4byddai'r dyfroedd wedi'n cario ymaith a'r llif wedi mynd dros ein pennau;
5ie, drosom yr �i dygyfor y tonnau.
6Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am iddo beidio �'n rhoi yn ysglyfaeth i'w dannedd.
7Yr ydym wedi dianc fel aderyn o fagl yr heliwr; torrodd y fagl, yr ydym ninnau'n rhydd.
8Ein cymorth sydd yn enw'r ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear.