Salmau 13:1-6 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Am ba hyd, ARGLWYDD, yr anghofi fi'n llwyr? Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?

2Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid, a gofid yn fy nghalon ddydd ar �l dydd? Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi?

3Edrych arnaf ac ateb fi, O ARGLWYDD fy Nuw; goleua fy llygaid rhag imi gysgu hun marwolaeth,

4rhag i'm gelyn ddweud, "Gorchfygais ef", ac i'm gwrthwynebwyr lawenhau pan gwympaf.

5Ond yr wyf fi'n ymddiried yn dy ffyddlondeb, a chaiff fy nghalon lawenhau yn dy waredigaeth; canaf i'r ARGLWYDD, am iddo fod mor hael wrthyf.

6{cf2 (13:5)}

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>