Salmau 130:1-8 BCN1988 - Bible AI

11 C�n Esgyniad.0 O'r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD.

2Arglwydd, clyw fy llef; bydded dy glustiau'n agored i lef fy ngweddi.

3Os wyt ti, ARGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau, pwy, O Arglwydd, a all sefyll?

4Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y cei dy ofni.

5Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl, a gobeithiaf yn ei air;

6y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwydd yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore, yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore.

7O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD, oherwydd gyda'r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb, a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth.

8Ef sydd yn gwaredu Israel oddi wrth ei holl gamweddau.