Salmau 132:1-18 BCN1988 - Bible AI

11 C�n Esgyniad.0 O ARGLWYDD, cofia am Ddafydd yn ei holl dreialon,

2fel y bu iddo dyngu i'r ARGLWYDD ac addunedu i Un Cadarn Jacob,

3Nid af i mewn i'r babell y trigaf ynddi, nac esgyn i'r gwely y gorffwysaf arno;

4ni roddaf gwsg i'm llygaid na hun i'm hamrannau,

5nes imi gael lle i'r ARGLWYDD a thrigfan i Un Cadarn Jacob."

6Wele, clywsom amdani yn Effrata, a chawsom hi ym meysydd y coed.

7Awn i mewn i'w drigfan a phlygwn wrth ei droedfainc.

8Cyfod, ARGLWYDD, a thyrd i'th orffwysfa, ti ac arch dy nerth.

9Bydded dy offeiriaid wedi eu gwisgo � chyfiawnder, a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu."

10Er mwyn Dafydd dy was, paid � throi oddi wrth wyneb dy eneiniog.

11Tyngodd yr ARGLWYDD i Ddafydd adduned sicr na thry oddi wrthi: "O ffrwyth dy gorff y gosodaf un ar dy orsedd.

12Os ceidw dy feibion fy nghyfamod, a'r tystiolaethau a ddysgaf iddynt, bydd eu meibion hwythau hyd byth yn eistedd ar dy orsedd."

13Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion, a'i chwennych yn drigfan iddo:

14Dyma fy ngorffwysfa am byth; yma y trigaf am imi ei dewis.

15Bendithiaf hi � digonedd o ymborth, a digonaf ei thlodion � bara.

16Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iachawdwriaeth, a bydd ei ffyddloniaid yn gorfoleddu.

17Yno y gwnaf i gorn dyfu i Ddafydd; darperais lamp i'm heneiniog.

18Gwisgaf ei elynion � chywilydd, ond ar ei ben ef y bydd coron ddisglair."

>